Mae’r ymgeiswyr canlynol wedi enwebu eu hunain ar gyfer Is-Etholiad 2021. Mae gan holl fyfyrwyr PCyDDS hawl ddemocrataidd i ddylanwadu ar y materion y mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio arnynt a chyfrannu at y ffordd y mae'n eich cynrychioli i’r Brifysgol a'r gymuned ehangach.
Bydd y bleidlais yn digwydd rhwng 10:00 ddydd Mercher 9fed Mehefin a 3:00pm ddydd Gwener 11eg Mehefin. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'ch pleidlais i ddewis pwy fydd yn arwain Undeb y Myfyrwyr ac yn eich cynrychioli o fis Gorffennaf 2021 ymlaen. Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau wrth bleidleisio, e-bostiwch election@uwtsd.ac.uk i gysylltu ag aelod o'r Tîm Etholiadau
Mae pob Ymgeisydd yn cynhyrchu maniffesto sy'n cynnwys gwybodaeth am bwy ydyn nhw a beth maen nhw am weithio arno’r flwyddyn nesaf os cânt eu hethol. Gofynnwch i'ch hun a ydyn nhw'n arddangos y blaenoriaethau yn ogystal â'r sgiliau creadigol a chyfathrebu allweddol y byddech chi am eu gweld mewn rhywun sy'n eich cynrychioli chi? Bydd y maniffestos ar gael ar ein gwefan ar Dydd Llun 9 Mehefin 2021.