Ein Pencampwyr BUCS 🏆

Dydd Mercher 20-03-2024 - 11:00

🏆 Gadewch i ni longyfarch ein PENCAMPWYR! Mae ein timau wedi cael llwyddiant anhygoel y tymor hwn, ac mae’n bryd i ni ddathlu.

⚽️ Mae’r tîm pêl-droed wedi ennill eu cynghrair, gydag 8 buddugoliaeth allan o 9 gêm! Hefyd llongyfarchiadau enfawr i Nico Sofiu, Myles Perkins, a James Piggott am fod ymhlith y 5 chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer uchaf o goliau yn y gynghrair – mae’r tîm wedi sicrhau dyrchafiad ar gyfer y tymor nesaf.

🏉 Mae’r tîm rygbi hefyd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, gan ennill 7 gêm allan o 9, a sicrhau diweddglo cyffrous i’w tymor trwy ennill yn erbyn RAU o 34 – 33 i gipio Tarian y Gynhadledd!

Llongyfarchiadau i Cian Trevelyan a Luke Darnell am fod y 2 brif sgoriwr ceisiau yn y gynghrair, a Sam Potter am drosi’r nifer fwyaf o giciau!

Ond nid dyna'r cyfan 👀

Mae'r tîm pêl-rwyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn ac wedi chwarae gemau anhygoel dros y tymor diwethaf, gan ennill rhai gemau cofiadwy yn ystod y tymor hwn; nid yw eu gwaith caled a'u dygnwch wedi cael ei anwybyddu.

Rydym hefyd am roi cydnabyddiaeth i'n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unigol a'u hymdrechion gwych, gyda Deryn Allen-Dyer yn ymddangos am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Jiwdo BUCS ac yn dod yn 4ydd yn y 2 Kyu ac Is i fenywod o dan 70kg!

Llongyfarchiadau hefyd i Emily Thomas yn y Naid Hir, a gafodd gryn lwyddiant yn yr Athletau Dan-do yn Sheffield, lle cyflawnodd naid orau’r tymor o 5.88m yn y rhagbrofion i fynd drwodd i’r rownd derfynol!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...