Fe welwch chi'r tîm yn y swyddfa a bydd drysau bar a gofod cymdeithasol myfyrwyr Y Llofft yn agor unwaith eto.
Mae Swyddfa’r UM ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 - 17:00.
Mae Gofod Cymdeithasol Y Llofft ar agor am gyfnod hirach - o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 - 03:00 (mae bellach ar agor 18 awr y dydd)
Mae Bar Myfyrwyr Y Llofft ar agor nos Lun, nos Fercher, a nos Wener, 20:00 - 23:30, gyda’n digwyddiadau clwb yn cael eu cynnal i fyny'r grisiau hefyd.
Mae’r Clwb yn dal ar gau oherwydd gwaith atgyweirio sy'n mynd rhagddo.
Mae mynediad i adeilad Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerfyrddin bellach ar gael trwy gerdyn sweipio! Bydd hyn yn caniatáu i chi gael mynediad i’r holl adeilad rhwng 18:00 a 3:00, nos Lun i nos Wener, a rhwng 9:00 a 3:00 ar y Sadwrn a’r Sul. Bydd angen ysgogi eich I.D. Myfyriwr yn Nerbynfa Dewi. Wedyn gallwch sganio’ch cerdyn ar y sganiwr sydd wedi’i leoli wrth y ffens fach frown ger mynedfa’r adeilad.

Nos Wener 30ain Ionawr, 21:00 - 02:00 yn Y Llofft
Camwch i mewn i'r hud! Gwisgwch fel eich hoff gymeriad Disney ac ewch ati i ddawnsio drwy’r nos - gwobrau am y gwisgoedd gorau a’ch holl hoff ganeuon parti drwy’r nos!
Byddwn yn cynnal digwyddiadau hamddenol a di-alcohol rhwng 17:00 - 21:00 bob nos Lun, nos Fercher a nos Wener. Byddwn yn cyhoeddi'r digwyddiadau trwy ein cyfryngau cymdeithasol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein dilyn ar Instagram!
WMae gennym ni nawr ddwy ystafell y gellir eu harchebu i fyfyrwyr eu defnyddio ar y coridor i fyny'r grisiau wrth Y Llofft. I'w harchebu, cysylltwch â thîm Llety'r Brifysgol yn accommodation@uwtsd.ac.uk gan roi rhybudd o 24 awr, a rhoi gwybod i'r porthorion pryd y bydd y lle yn cael ei ddefnyddio.
Parti Diwedd y Tymor UppaSaints!
Nos Fercher 4ydd Mawrth, 16:30 - 22:00 yn Y Llofft
Mae timau Rygbi a Phêl-droed UppaSaints yn chwarae eu gemau cartref olaf ar 4ydd Mawrth, a bydd eich tîm Pêl-rwyd hefyd yn herio tîm 4 Menywod Abertawe oddi cartref yn eu gêm olaf o’r tymor. Felly ymunwch â ni i gefnogi’r timau yn ystod eu gemau cartref olaf, ac yna dewch draw i’r Llofft ar ôl y gemau i ddathlu tymor gwych gyda phizza am ddim, cerddoriaeth dda, a noson yn llawn dathliadau!