Diweddariad ar Gyrsiau Perfformio ar Gampws Caerdydd

Dydd Mercher 22-04-2026 - 14:58

Mae myfyrwyr perfformio yng Nghaerdydd wedi derbyn diweddariad gan y Brifysgol ynglŷn â chyflwyno eu rhaglenni yng Nghaerdydd.

Yr hyn a wyddom:

  • Oedodd y Brifysgol recriwtio ar gyfer sawl rhaglen eleni yng Nghaerdydd, sy'n golygu bod y niferoedd a dderbyniwyd yn is nag o'r blaen.
  • Mae rhai rhaglenni yng Nghaerdydd yn rhaglenni wedi’u cyflymu (sy'n golygu eu bod yn cael eu cwblhau mewn dwy flynedd yn hytrach na thair blynedd).
  • Mae'r brifysgol wedi cysylltu â myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i ymuno â rhaglenni ym mis Medi 2026 i roi gwybod iddynt y gallant naill ai ymuno â rhaglen yn 2027 neu y bydd y Brifysgol yn rhoi cymorth iddyn nhw ddod o hyd i raglen mewn Prifysgol arall.
  • Bydd myfyrwyr cyfredol yn parhau â'u gradd yng Nghaerdydd. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fyfyrwyr orffen eu graddau.
  • Mae’r Brifysgol hefyd wedi ystyried myfyrwyr nad ydynt efallai’n gallu cwblhau eu hastudiaethau o fewn yr amserlen arferol.
  • Mae'r llythyr yn amlinellu sut y bydd y Brifysgol yn cynnal adolygiad o'r rhaglenni fel rhan o'r Adolygiad Cwricwlwm sy’n mynd rhagddo. 

Beth mae Rainna yn ei feddwl:

Rwy'n sylweddoli y bydd y newyddion hyn yn peri anesmwythyd i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a ddewisodd astudio perfformio yng Nghaerdydd oherwydd y gymuned greadigol yma

Mae'n bwysig bod yn glir y bydd myfyrwyr presennol yn cael eu cefnogi i gwblhau eu graddau yng Nghaerdydd, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Brifysgol i wneud yn siŵr bod yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni'n llawn.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pob myfyriwr perfformio yn cael profiad dysgu creadigol o ansawdd uchel, waeth beth fo maint y garfan. Byddwn yn parhau i wrando ar fyfyrwyr, codi pryderon, a dwyn y Brifysgol i gyfrif ar faterion fel cyfleusterau, mynediad at ofod ymarfer, a phrofiad cyffredinol myfyrwyr yng Nghaerdydd.

 

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud:

  • Trwy gydol tymor yr Hydref 2025, fe gasglom adborth gan fyfyrwyr yng Nghaerdydd am eu profiad fel myfyrwyr, yn enwedig mewn perthynas â'r adeilad. Mae'r Brifysgol wedi ymateb yn rhagweithiol i hyn a bydd yn gwneud gwelliannau i'r adeilad dros yr haf. Ein rôl ni yw sicrhau bod y gwelliannau hyn yn gweithio i bob myfyriwr sy'n astudio yn yr adeilad.
  • Bydd gennym gydweithwyr ar y safle i wrando ar fyfyrwyr a dwyn eu hadborth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
  • Byddwn yn dal y Brifysgol i gyfrif am ddarparu profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar raglenni perfformio, waeth beth fo nifer y myfyrwyr ar y campws.
  • Rydym yn parhau i ymgyrchu dros fwy o oriau agor ar gyfer yr adeilad i fyfyrwyr perfformio allu ymarfer ar adegau sy'n gyfleus iddyn nhw

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...