Mae eich Llywydd Caerdydd ac Abertawe yn edrych ymlaen at gwrdd â myfyrwyr ledled Caerdydd ac Abertawe i sgwrsio am fywyd myfyrwyr, clywed eich syniadau, a gwrando ar eich adborth ar sut y gall Undeb y Myfyrwyr barhau i'ch cefnogi.
Sesiynau galw-heibio anffurfiol, hamddenol yw'r rhain, lle gallwch ddod draw am sgwrs am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â bywyd myfyrwyr - beth sy'n mynd yn dda, beth allai fod yn well, neu unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi am Undeb y Myfyrwyr. Does dim agenda ffurfiol, a does dim angen aros am y sesiwn gyfan - galwch heibio pan mae'n gyfleus i chi.
Yn ystod y sesiynau hyn, bydd Rainna hefyd yn cynnal Arolwg o Brofiad Gwasanaethau Myfyrwyr yr UM.
Mae'r arolwg hwn yn gyfle pwysig i chi rannu eich barn am y gwasanaethau y mae Undeb y Myfyrwyr wedi'u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i helpu i lunio sut rydym yn gwella ac yn datblygu ein cefnogaeth i fyfyrwyr yn y dyfodol.
Ochr-yn-ochr â'r sesiynau galw-heibio hyn, bydd Rainna hefyd yn galw heibio eich ystafelloedd ddosbarth yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r ymweliadau hyn yn rhoi cyfle arall i fyfyrwyr rannu eu barn, trafod unrhyw gwestiynau neu anghenion cymorth. Bydd Rainna yn casglu'r adborth hwn ac yn siarad ar ran myfyrwyr i helpu â llywio gwaith Undeb y Myfyrwyr.
Does dim angen archebu – mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd yn ystod y sesiynau.
Gallwch ddod o hyd i Rainna ar yr amseroedd ac yn y lleoliadau hyn: