Hunan-eiriolaeth – hintiau handi

Dydd Mercher 06-05-2026 - 10:58

“Seek support when needed. This can be a trusted colleague, a trusted friend or support services that are available to you” 

– Gwyneira Davies, London and Birmingham Campus President

 

Fel rhan o'n cyfres o sgyrsiau cynghori, mae gwasanaeth cynghori eich undeb myfyrwyr yn mynd i'r afael â phwnc hunan-eiriolaeth. Mewn cydweithrediad â Llywydd Llundain a Birmingham, Gwyneria Davies, a Swyddog Anabledd Rhan-amser Llundain, Galina Bleidere, rydym yn gobeithio dangos sut y gall myfyrwyr ddefnyddio hunan-eiriolaeth wrth lywio cyfnodau heriol yn ystod eu profiad prifysgol.  

Beth yw hunan-eiriolaeth? 

Hunan-eiriolaeth yw’r gallu i siarad drosoch eich hun a chyfleu eich anghenion a'ch hawliau yn effeithiol. Mae'n bwysig oherwydd bod hyn yn galluogi myfyrwyr i siarad drostynt eu hunain; mae’n gwella sgiliau cyfathrebu, ac yn hybu hunanhyder myfyrwyr. 

Pam mae hunan-eiriolaeth yn bwysig i fyfyrwyr?  

Mae hunan-eiriolaeth yn declyn hanfodol y gall myfyrwyr ei ddefnyddio wrth lywio sgyrsiau anodd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r sgil hon mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ystod eu hamser mewn addysg uwch. Boed hynny fel Cynrychiolydd Cwrs wrth roi adborth i'r brifysgol, neu fel myfyriwr sydd eisiau tynnu sylw at brofiad sydd wedi cael effaith ar eu taith addysgol.  

Sut mae hunan-eiriolaeth yn gysylltiedig â phrosesau’r brifysgol  

Mae hunan-eiriolaeth yn caniatáu i fyfyrwyr ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Efallai y bydd angen eglurhad ar fyfyrwyr ynghylch beth i'w gyflwyno gydag Apêl Academaidd neu gallai fod yna bethau’n digwydd yn eu bywyd personol sy'n cael effaith ar eu gallu i astudio. Yn yr achos hwn, gellid defnyddio hunan-eiriolaeth trwy ofyn i'r Gwasanaeth Cynghori am ragor o wybodaeth am amgylchiadau esgusodol os nad ydych chi'n deall sut i wneud cais amdano, neu'r meini prawf ar gyfer gwneud hynny.

Awgrymiadau ar gyfer Hunan-eiriolaeth  

Rhannodd Llywydd Birmingham a Llundain a swyddog rhan-amser Anabledd Llundain eu hawgrymiadau eu hunain ar gyfer hunan-eiriolaeth: 

Ceisiwch gefnogaeth pan fo angen hynny arnoch. Gall hwn fod yn gydweithiwr y gallwch ymddiried ynddo, yn ffrind dibynadwy neu'n wasanaethau cymorth sydd ar gael i chi" ac mae'n bwysig "gwybod beth yw eich hawliau fel myfyriwr

- Gwyneira Davies

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun cyn gynted â phosibl yn hytrach na gadael i’r broblem gronni

- Galina Bleidere

 

Cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori  

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar-lein i helpu myfyrwyr ar Wefan yr Undeb, gan gynnwys ein pecyn cymorth ar gyfer prosesau academaidd sy'n dadansoddi polisïau a phrosesau'r brifysgol i fyfyrwyr. 

Fel Gwasanaeth Cynghori, gallwn ni helpu myfyrwyr gyda'r canlynol:  

  • Dadansoddi polisïau’r brifysgol 
  • Cyfeirio myfyrwyr at adrannau neu wasanaethau eraill 
  • Helpu myfyrwyr i ddeall eu hawliau  
  • Canllawiau ar sut i ymdrin â sgyrsiau anodd  

Os oes angen unrhyw eglurhad pellach ar fyfyrwyr ynghylch prosesau neu broblemau y maent yn eu hwynebu, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori yn su.advice@uwtsd.ac.uk 

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...