Etholiad Senedd Cymru 2026

Dydd Iau 19-03-2026 - 13:53
Uwtsd su 2526 blog senedd elections

Cynhelir etholiad Senedd Cymru ddydd Iau, 7fed Mai 2026, ac rydym am gael cymaint o fyfyrwyr PCyDDS â phosibl wedi cofrestru i bleidleisio cyn gynted â phosibl fel y gallant leisio eu barn ar bethau fel sut mae'r GIG yn gweithio, cyllid ar gyfer addysg, ffioedd dysgu, a chymorth i fyfyrwyr Cymru, trafnidiaeth, tai, a'r amgylchedd.

Dyma Senedd genedlaethol Cymru, a chynhelir etholiadau fel arfer yn bob pum mlynedd. Mae penderfyniadau a wneir yn y Senedd yn effeithio ar eich arian, eich astudiaethau a'ch dyfodol.

Rydym yn falch o fod yn rhan o'r Ymgyrch Trowch i Fyny sy’n cael ei chynnal gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i gael cymaint o fyfyrwyr a phobl ifanc â phosibl wedi cofrestru i bleidleisio. Gallwch bleidleisio cyn belled â'ch bod yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad, yn byw yng Nghymru, ac wedi cofrestru i bleidleisio. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr o Loegr, yr Alban, ynys Iwerddon, a myfyrwyr rhyngwladol.

Yn yr etholiad hwn, bydd 96 o Aelodau’r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli 16 etholaeth. Y blaid (neu'r grŵp o bleidiau) sydd â'r gefnogaeth fwyaf sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru, ac arweinydd y llywodraeth fydd Prif Weinidog Cymru.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio

Mae unrhyw un 16 oed neu hŷn ar ddiwrnod yr etholiad yn gallu pleidleisio mewn etholiad Senedd, cyn belled â'u bod nhw yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru i bleidleisio. Mae hynny'n cynnwys myfyrwyr o Loegr, yr Alban, ynys Iwerddon, a myfyrwyr rhyngwladol. Gall myfyrwyr rhyngwladol ddefnyddio teclyn ar-lein "Gaf i Bleidleisio?” Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i wirio pa etholiadau y maen nhw'n gymwys i bleidleisio ynddynt.

Cofrestrwch i Bleidleisio


Dyddiadau Etholiadau'r Senedd

  • 20fed EbrillDyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio
  • 21ain EbrillDyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost ac ar gyfer pleidlais bost trwy ddirprwy, ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post neu trwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes
  • 28ain EbrillDyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy
  • 7fed MaiDyddiad yr etholiad
  • 8fed Mai Bydd y papurau pleidleisio’n cael eu cyfrif 

Ffyrdd o Bleidleisio

Cynhelir yr etholiad ar 7fed Mai, ac mae tair ffordd o bleidleisio ar ôl i chi gwblhau’r broses gofrestru pleidleiswyr:

  1. Yn bersonol, mewn gorsaf bleidleisio
  2. Trwy'r post, gyda phleidlais bost
  3. Trwy ddirprwy, gan ddewis rhywun i bleidleisio ar eich rhan

Pleidleisio’n bersonol

Os ydych chi ar y gofrestr etholiadol, byddwch chi'n derbyn cerdyn pleidleisio yn y post. Bydd hwn yn rhoi manylion i chi ynglŷn â ble mae eich gorsaf bleidleisio leol.

Gallwch fynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiad y Senedd i fwrw eich pleidlais. Mae gorsafoedd pleidleisio wedi'u sefydlu ar gyfer y diwrnod mewn adeiladau lleol fel ysgolion neu neuaddau cymunedol ledled Cymru. Ar ddiwrnod yr etholiad, mae gorsafoedd pleidleisio ar agor o 07.00 tan 22.00 i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu bwrw eu pleidlais.

Rydych chi’n dal i allu pleidleisio os ydych chi wedi colli'ch cerdyn pleidleisio, ac nid oes rhaid i chi fynd â'ch cerdyn gyda chi i bleidleisio.

Dysgwch fwy am bleidleisio yn bersonol

Pleidleisio trwy’r post

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am bleidlais bost i'w defnyddio ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru - does dim angen i chi roi rheswm.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am bleidlais bost. Gallwch gael y ffurflen hon o'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol. Ewch i www.gov.uk/cysylltwch-â-swyddfa-gofrestru-etholiadol i ddod o hyd i'ch swyddfa leol.

Pan gynhelir etholiadau'r Senedd a rhai lleol yng Nghymru, anfonir eich papur pleidleisio atoch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi. I wneud cais am bleidlais bost, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.

Dysgwch fwy am bleidleisio trwy’r post

Pleidleisio trwy ddirprwy

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy. Dyma pan fydd rhywun yn pleidleisio ar eich rhan - bydd angen i chi roi rheswm pam rydych chi eisiau pleidleisio trwy ddirprwy.

Os ydych chi'n gwybod na fyddwch chi'n gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleisio trwy ddirprwy yn ddewis amgen gwych. Mae pleidlais trwy ddirprwy yn golygu eich bod chi'n dewis rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gennych chi broblem feddygol neu anabledd sy'n eich atal rhag mynd i orsaf bleidleisio, neu os ydych chi'n bwriadu bod dramor ar ddiwrnod yr etholiad.

I wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Mae angen i'r person rydych chi'n ei ddewis i bleidleisio ar eich rhan fod wedi cofrestru i bleidleisio hefyd.

Dysgwch fwy am bleidleisio trwy ddirprwy


Cwestiynau Cyffredin

A allaf gofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad?

Gallwch, fel myfyrwyr, cewch gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad. Fodd bynnag, dim ond mewn un cyfeiriad y gallwch chi bleidleisio yn etholiad y Senedd. Rydyn ni'n gwybod bod eich amser wedi'i rannu rhwng eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch cyfeiriad cartref, felly mae'n bwysig eich bod chi wedi cofrestru yn y ddau. 

Oes angen i mi gofrestru i bleidleisio eto os byddaf yn newid cyfeiriad?

Oes, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio bob tro y byddwch yn newid cyfeiriad.

A fydd angen ID â Llun arnaf?

Na fydd, ni fydd angen i chi ddangos dogfen adnabyddiaeth â llun er mwyn pleidleisio yn etholiad y Senedd.

Beth os ydw i oddi cartref ar 7fed Mai?

Os na allwch chi fod yn bresennol i bleidleisio ar 7fed Mai, gallwch wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais trwy ddirprwy.

  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 17:00 ddydd Mawrth 21ain Ebrill 2026.
  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy yw 17:00 ddydd Mawrth 28ain Ebrill 2026.

Cydnabyddiaeth

Cafodd y cynnwys hwn ei ddwyn at ei gilydd gyda gwybodaeth o www.nus-wales.org.uk/senedd-election-2026 a www.senedd.wales/senedd-election-2026.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...