Mae angen eich adborth arnom i lunio ein Cynllun Strategol newydd, sy'n gosod ein gwaith ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn ymchwilio i'n Cynllun Strategol newydd, ac mae gennym syniadau i'w rhannu â chi. Rydym yn cynnal grwpiau ffocws o fyfyrwyr; dyma'ch cyfle i rannu eich barn am ein syniadau ar gyfer ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a'n gwerthoedd.
Fel diolch, rydym yn cynnig Taleb Amazon gwerth £20 (uchafswm o un y pen) i'r rhai sy'n rhoi adborth rhagweithiol a diddorol ar ein syniadau yn ystod y grwpiau ffocws.
Cynhelir pob grŵp ffocws ar-lein trwy Microsoft Teams rhwng Chwefror ac Ebrill; byddant yn cynnwys cymysgedd o fyfyrwyr o bob campws, gyda phob sesiwn yn para awr.
Mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn cael eu dyrannu ar hap. Os oes gennych chi ddiddordeb, llenwch ein ffurflen, ac os cewch eich dewis, byddwn yn cysylltu â chi gydag amseroedd, dyddiadau a dolenni.
Rydym yn rhannu'r grwpiau ffocws fesul campws, ac yn gofyn i un myfyriwr o bob disgyblaeth academaidd rannu ei farn.