Dyma ychydig o atgofion i'r cyfnod cyn gwyliau'r gaeaf, gan ein bod ni eisiau tynnu sylw at y gwaith anhygoel a wnaed ar ein Campws yn Llundain gan ein Swyddog Llesiant Rhan-amser Noemi Canu, a'n Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau Rhan-amser Galina Bleidere.
Fe ymunon nhw â Josef, ein Cydlynydd Llais Myfyrwyr, i greu ymgyrch 3 diwrnod i ledaenu positifrwydd, hwyl yr ŵyl a chasglu adborth ar eich amser yn y brifysgol, yn ogystal â rhannu rhai danteithion Nadoligaidd.
Gwahoddwyd myfyrwyr i ysgrifennu neges a'i gosod ar ein coeden i ni eu casglu, a buan iawn y gwnaethon ni redeg allan o le – roedd yn llawn negeseuon cadarnhaol, geiriau calonogol ac adborth gwerthfawr yr ydym yn edrych drwyddo!
Rydyn ni eisiau diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran – gadawodd 258 ohonoch chi nodiadau, gyda hyd yn oed mwy yn galw heibio i ddweud helo.
Fe wnaeth yr ymgyrch arwain at lawer o sgyrsiau, gan osod gwên ar wynebau, a chreu ymdeimlad cryf o gymuned; bydd yr adborth a gasglwyd yn helpu i lywio gwaith llesiant ac ymgysylltu yn y dyfodol ar gampws Llundain.
Rydym hefyd eisiau diolch i bawb ar draws Gwasanaethau Myfyrwyr, Llesiant, Gyrfaoedd, a Chyfleusterau a’n helpodd ni i wireddu'r prosiect hwn.

















































