Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein rhaglen Wythnos Sgiliau yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf – ac mae gwahoddiad i chi!
Gallwch fynychu sesiynau unigryw a gweithdai sydd â’r nod o’ch helpu i baratoi ar gyfer gyrfa.
O ddydd Mawrth 7fed Mai tan ddydd Sadwrn 11eg Mai, gallwch ymuno â ni mewn gweithdai am ddim i'ch helpu i wella a datblygu eich sgiliau i helpu yn y brifysgol ac yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae Wythnos Sgiliau yn rhaglen wythnos o hyd sy’n cynnwys gweithdai, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer y brifysgol ac ar gyfer eich gyrfaoedd yn y dyfodol, gan eich helpu ymhellach i gynyddu eich cyflogadwyedd - byddwch hyd yn oed yn ennill tystysgrifau ar ôl rhai sesiynau.
“Roeddwn i wrth fy modd â’r cyrsiau; roeddent yn hynod glir. Roeddent yn ddeinamig a chyfeillgar iawn”
– adborth gan fyfyriwr
Gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag y dymunwch – boed hynny’n un neu bob un ohonynt, ac maent yn cael eu cynnal rhwng ac ar ôl eich dosbarthiadau – felly mae’n hawdd eu trefnu o amgylch eich astudiaethau.
Un o'r pethau gwych am yr Wythnos Sgiliau yw ei bod am ddim! Bydd angen i chi archebu ymlaen llaw i sicrhau eich lle ar gyfer y sesiynau yr hoffech eu mynychu
Mae'r rhestr lawn ar gael ar ein gwefan yma:
www.uwtsdunion.co.uk/skills-week
Gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag y dymunwch – boed hynny’n un neu bob un ohonynt,
Mae'r rhestr lawn ar gael ar ein gwefan yma:
Adeiladu eich Proffil LinkedIn Dydd Mawrth 7 Mai, 6pm
Adeiladwch eich Proffil LinkedIn (ar-lein) Dydd Mercher 8 Mai, 1.30pm
Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder Dydd Mercher 8 Mai, 5pm
Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru: Cyflwyniad i Waith Byrfyfyr gyda'r Cyfarwyddwr Duncan Hallis Dydd Mercher 8 Mai, 6.30pm
Sgiliau Digidol 101: Hanfodion ar gyfer y Brifysgol Dydd Iau 9 Mai, 1pm
Sgiliau Digidol 101: Microsoft 365 Dydd Iau 9 Mai, 2.15pm
Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder (ar-lein) Dydd Iau 9 Mai, 5.30pm
Tynnu Lluniau Proffesiynol Dydd Gwener 10 Mai, 10am
Hanfodion Cyfweliadau am Swydd (ar-lein) Dydd Gwener 10 Mai, 2.30pm
Adeiladu eich Proffil LinkedIn Dydd Sadwrn 11 Mai, 11am
Hanfodion Cyfweliadau am Swydd (ar-lein) Dydd Sadwrn 11 Mai, 12.30pm
Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder Dydd Sadwrn 11 Mai, 2.30pm