Sefwch allan yn y farchnad swyddi - Wythnos Sgiliau

Dydd Mercher 23-09-2026 - 11:42

students having their photo taken

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i sefyll allan mewn marchnad swyddi brysur a sicrhau eich rôl nesaf, gan ei bod hi'n mynd yn anoddach cystadlu am swyddi ar ôl y Brifysgol! Roedd yna ar gyfartaledd 140 o ymgeiswyr am bob swydd ar gyfer graddedigion yn 2025 - yn ôl ffigurau Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr.

Rydym yn cynnig hyfforddiant a gweithdai am ddim; Mae'r sesiynau unigryw hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i baratoi ar gyfer gyrfa a bod gam o flaen yr ymgeiswyr eraill. Mae'r dyddiau pan allai gradd yn unig sicrhau gyrfa i chi yn y farchnad swyddi wedi hen fynd. Dyna pam y gwnaethon ni lansio’r Wythnos Sgiliau yn ôl yn 2022. Fe ddechreuon ni helpu myfyrwyr i gael hyfforddiant a pharatoi ar gyfer gyrfa. Ers hynny, rydym wedi ehangu'r rhaglen, gan hyfforddi cannoedd mwy o fyfyrwyr

Nawr yw'r amser i fuddsoddi ynoch chi'ch hun. Does dim ots pa flwyddyn rydych chi ynddi na'r cwrs rydych chi'n ei astudio - mae pob sesiwn Wythnos Sgiliau am ddim ac yn arbennig ar gyfer myfyrwyr PCyDDS. Byddwn yn eich helpu i feistroli'r pethau sylfaenol a mynd â'ch sgiliau i'r lefel nesaf

Rhestrau digwyddiadau ar gyfer eich Campysau....

  1. image of a person having their photo taken, Birmingham Campus title and the Skills Week logo is overlayed on top
    Wythnos Sgiliau Birmingham

    Yn digwydd ym mis Hydref
  2. a person presenting in front of people, Carmarthen campus title and the Skills Week logo is overlayed on top
    Wythnos Sgiliau Caerfyrddin

    Yn digwydd ym mis Tachwedd
  3. a group photo of students, London campus title and the Skills Week logo is overlayed on top
    Wythnos Sgiliau Llundain

    Yn digwydd ym mis Tachwedd
  4. a crowd of people sitting in chairs, Swansea campus title and the Skills Week logo overlayed on top
    Wythnos Sgiliau Abertawe

    Yn digwydd ym mis Tachwedd

Categorïau:

Timau

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...