Fel Undeb Myfyrwyr rydym yn falch o gael ein harwain gan fyfyrwyr - ac nid dim ond dweud hynny ydyn ni, rydym o ddifrif - o ddigwyddiadau, yr holl ffordd i'n hymgyrchoedd a chyfeiriad ein gwaith, mae eich llais wrth wraidd y cyfan.
Un o'r ffyrdd rydyn ni'n gwneud hyn yw trwy ein Swyddogion Rhan-Amser (SRhA) - gwirfoddolwyr ydyn nhw, a gaiff eu hethol gan fyfyrwyr sy'n ymgyrchu gyda myfyrwyr ac yn eu cynrychioli ochr-yn-ochr â’u hastudiaethau.
Mae ein SRhA wedi bod yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr eu bod yn eich cynrychioli chi, trwy ymgyrchoedd, digwyddiadau a thrwy gasglu adborth fel y gallwn weithredu arno.
Y mis hwn, mae eich SRhA yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt; mae yna rai i’w gweld isod:
Paentio Murlun Bach
Dydd Iau 5eg Mawrth @ 19:00 - 21:00 yn CJ2
Wythnos Anableddau Cudd - Stopiwch a Meddyliwch!
Dydd Llun 16eg Mawrth, dydd Mawrth 17eg Mawrth a dydd Gwener 20fed Mawrth @ 13:00 - 15:00 yn Ardal y Ffreutur
Lliwio a Choffi
Dydd Mercher 11eg Mawrth @ 15:00 - 16:00 yng Nghanolfan Dylan Thomas