🎄 Ymdrech Aruthrol gan PCyDDS.

Dydd Iau 03-12-2020 - 13:06

Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn lledaenu hwyl yr ŵyl wrth roi anrhegion i blant trwy Apêl Nadolig Mr X.

Nod Apêl Nadolig Mr X, sydd wedi bod wrthi ers 60 mlynedd, yw sicrhau bod pob plentyn yn deffro i anrheg fore Nadolig.

Dechreuwyd yr apêl gan Tom Bravin - rheolwr adwerthu lleol a ddanfonodd filoedd o anrhegion yn ddienw i bobl ifanc yn ardal Abertawe. Datgelwyd pwy oedd Mr X ar ôl marwolaeth Tom Bravin ym mis Mawrth 2016. 

Heddiw, mae ei waith yn parhau ar draws de-orllewin Cymru, gyda llawer o unigolion a sefydliadau caredig yn rhoi anrhegion, gan gynnwys PCyDDS. 

Hyd yn oed gyda phopeth y mae 2020 wedi'i daflu atom, mae myfyrwyr a staff yn dal i fod yn benderfynol o rannu llawenydd a charedigrwydd, gyda thîm Mr X yn dweud: "Ble fydden ni heb PCyDDS? Rydych chi wedi bod yn cymryd rhan ers sawl blwyddyn bellach." 

Eleni, mae myfyrwyr a staff wedi cyfrannu at anrhegion i 150 o blant. Georgia (Llywydd Campws Caerfyrddin) a Laura (Cynorthwyydd Ymgysylltu â Myfyrwyr yn Llambed) oedd yn gyfrifol am gydlynu’r apêl yn PCyDDS. 

Meddai Georgia a Laura: "Byddem yn bersonol wrth ein bodd diolch i bob un ohonoch a gymerodd ran, p'un ai trwy brynu anrheg neu rannu ein negeseuon. Fe helpodd i wneud cymaint o wahaniaeth i Nadolig 150 o blant na fyddent efallai wedi derbyn anrhegion o’r blaen, yn enwedig yn ystod yr amgylchiadau presennol; felly diolch i bawb, waeth pa mor fawr neu fach yw'r anrheg, mae wedi helpu i wneud gwahaniaeth enfawr."


 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...