Rydym yn symud lleoliad yng Nghaerfyrddin!

Dydd Llun 14-09-2026 - 15:00

Trosolwg

  1. Rydym yn symud lleoliad. O ddydd Sadwrn 19eg Medi, byddwn wedi ein lleoli yn ein gofod newydd ar lawr cyntaf yr adeilad Dysgu ac Addysgu. 
  2. Mae Ffair y Glas yn dal i ddigwydd yn hen leoliad Undeb y Myfyrwyr ddydd Llun 21ain Medi. 
  3. Mae lleoliad newydd yr UM yn cynnwys ardal gymdeithasol fwy, mae'n nes at ble rydych chi'n astudio, ac mae'n cynnwys cegin myfyrwyr. 
  4. Bydd gan Grwpiau Myfyrwyr fynediad haws i'w cwpwrdd storio. 

Rydym yn symud lleoliad yng Nghaerfyrddin! Rydym yn gyffrous i roi gwybod i chi ein bod yn symud o leoliad presennol yr UM i gartref newydd yn yr adeilad Dysgu ac Addysgu.

Rydyn ni wrth ein bodd â'n hadeilad presennol - mae'n dod â llawer o atgofion yn ôl i ni; fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi’i chael yn anodd cadw i fyny â'r newid yn nifer y myfyrwyr, ac mae hefyd yn dangos arwyddion o fod angen ymddeol. Mae'r adeilad yn eithriadol o boeth yn yr haf ac yn anghyfforddus o oer yn y gaeaf (rydym hyd yn oed wedi gorfod cau am gyfnod yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd bod pibellau wedi rhewi).

Rydym wedi gwybod ers peth amser bod rhaid i ni symud; fodd bynnag, nid yw'r Brifysgol wedi gallu dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer ystyriaeth tan fis Awst 2026. Tua dechrau Awst, cafodd Llywydd Campws Caerfyrddin a staff yr UM eu tywys o amgylch yr holl leoliadau posibl, a’r adeilad Dysgu ac Addysgu oedd yr un mwyaf addas ar gyfer ein hanghenion. Rydym yn ddiolchgar bod cydweithwyr wedi gallu dod o hyd i le i ni symud iddo, â'r symudiad wedi'i gymeradwyo yn wythnos gyntaf mis Medi.


Beth mae'n ei olygu?

  1. Mae'n golygu y gallwch chi ddod o hyd i'n holl wasanaethau i fyfyrwyr mewn un lle o hyd, yn union fel o'r blaen. 
  2. Bydd gennym ni ardal astudio gymdeithasol fwy ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cegin myfyrwyr! 
  3. Byddwn ni'n symud pethau fel y byrddau pŵl a'r bwrdd ping-pong i'n cartref newydd hefyd. 
  4. Am y tro cyntaf, byddwn wedi'n lleoli mewn adeilad lle mae myfyrwyr yn astudio, ac rydym wrth ein bodd y bydd yn haws nag erioed i ddod o hyd i ni. 
  5. Bydd storio offer ar gyfer grwpiau myfyrwyr fel y Gymdeithas Ganoloesol yn llawer haws. Bydd aelodau'r pwyllgor yn gallu cael mynediad at yr offer gan ddefnyddio cerdyn sweipio (yn hytrach na gorfod arwyddo am allwedd). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan i aelodau pwyllgorau. 
  6. Mae'n golygu y bydd ein digwyddiadau ar fin-nos yn newid lleoliad. 

Digwyddiadau ar Fin-nos

Rydym yn dal i weithio gyda'r Brifysgol ar gynllun ar gyfer sut olwg fydd ar ddigwyddiadau ar fin-nos; fodd bynnag, byddant yn y Merlin yn hytrach nag yn ein hadeilad ein hunain.

Mae'n gyffrous ein bod ni'n cael cynnal digwyddiadau yn nes at neuaddau preswyl. Sy'n golygu bod gan y rhai sy'n byw ar y campws lai o bellter i gerdded. Er ei bod hi'n drist ffarwelio â'r Clwb a'r Llofft, maen nhw wedi gwasanaethu cenedlaethau o fyfyrwyr, ac mae'n bryd diffodd y goleuadau wrth i ni gau drysau ein clwb nos. 

Mae myfyrwyr yn dewis treulio llai o amser a gwario llai o arian yn ein lleoliadau (rydym wedi gwneud colled yn ystod y blynyddoedd diwethaf), felly symud ein gweithgareddau yw’r chwa o awyr iach sydd ei hangen arnom wrth edrych tua’r dyfodol. 

Bydd ein partneriaeth â'r Brifysgol yn golygu bod pethau'n edrych yn wahanol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich adborth ar ba ddigwyddiadau yr hoffech eu gweld; allwn ni dim addo y bydd pob syniad yn cael ei gyflawni, ond rydym yn agored i'ch awgrymiadau. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Brifysgol ac yn rhannu mwy o fanylion wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.

Bydd digwyddiadau a gweithgareddau eraill yn dal i ddigwydd gyda'ch tîm sydd wedi'i leoli yng Nghaerfyrddin. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan am yr holl bethau hwyliog sydd gan Lywydd Campws Caerfyrddin ar y gweill.
 


Digwyddiad Olaf: Ffair y Glas 

Y digwyddiad olaf i'w gynnal yn ein hadeilad fydd Ffair y Glas, ddydd Llun 21ain Medi. Dewch draw i ffarwelio â'n hen gartref. Bydd ein swyddfeydd yn wag, ond bydd y ffair yn cael ei chynnal yn Y Clwb.

Rydyn ni'n gwybod y bydd yna ddigonedd o gwestiynau, ac rydyn ni yma i'w hateb cystal ag y gallwn ni wrth i ni setlo i mewn i’n cartref newydd. Am y tro, roedden ni eisiau rhoi gwybod i chi ein bod ni'n symud a bod rhai newidiadau'n dod ynghyd â'r symudiad hwnnw. Mae'r cyfan wedi digwydd yn eithaf cyflym, ond mae'r lle ar gael, ac rydyn ni eisiau setlo i mewn cyn gynted â phosibl. 

Bydd adeilad presennol Undeb y Myfyrwyr yn dod yn wag gan na fydd yn cael ei ddefnyddio mwyach gan Undeb y Myfyrwyr na'r Brifysgol. O ddydd Sadwrn 19eg Medi, gallwch ddod o hyd i ni yn ein gofod newydd ar lawr cyntaf yr adeilad Dysgu ac Addysgu.


Cwestiynau Cyffredin

Oes yna ofod cymdeithasol i fyfyrwyr o hyd? 
Oes, mae’r gofod newydd yn yr adeilad Dysgu ac Addysgu’n cynnwys ardal gymdeithasol fwy, mae'n nes at ble rydych chi'n astudio, ac mae'n cynnwys cegin myfyrwyr.

Ydy Ffair y Glas yn dal i ddigwydd? 
Ydy, bydd Ffair y Glas yn cael ei chynnal ddydd Llun 21ain Medi yn ein HEN ofod (dyma'r digwyddiad olaf y byddwn ni'n ei gynnal yno).

Ydw i’n dal i allu ymweld â swyddfa Undeb Myfyrwyr? 
Ydych, mae’n dal i fod yn bosib ymweld â swyddfa’r UM yn yr adeilad Dysgu ac Addysgu.

Pam rydyn ni'n symud?
Roedden ni wrth ein bodd â'n hadeilad, ond nid yw bellach yn addas at y diben. Rydym yn gyffrous i fod yn symud i ofod sy'n fwy cydnaws â sut mae myfyrwyr yn defnyddio ein mannau mewn gwirionedd.

A fydd bar/digwyddiadau ar fin-nos o hyd? 
Rydym yn gweithio gyda'r brifysgol i weld beth ellir ei wneud – byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau.
 


Cwestiynau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost atom yn su@uwtsd.ac.uk, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu'n ôl â chi.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...