Beth mae’r UM yn ei wneud?

Dydd Mawrth 12-01-2021 - 16:56

Bydd y brifysgol yn ganolog a’ch disgyblaeth academaidd wedi cyfathrebu â chi. Mae'r brifysgol yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd yn ddiogel i ddysgu ac addysgu. Mae gwasanaethau cymorth yn dal i fod ar gael ar-lein i bob myfyriwr gael mynediad iddynt gan Hwb, y Llyfrgell a Gwasanaethau Myfyrwyr. Fodd bynnag, bydd llawer o addysgu'n digwydd ar-lein tan o leiaf 14 Chwefror. Oherwydd y trefniadau yma, rydyn ni am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

 

Ar hyn o bryd mae yna nifer o bethau rydyn ni'n gweithio arnyn nhw gyda'r brifysgol:

 

 🏠 Mae'r undeb wedi gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau ad-daliadau rhent i'r myfyrwyr hynny sydd yn neuaddau preswyl y brifysgol yn ystod 5 wythnos gyntaf y tymor!

💬 Cyfathrebu clir a rheolaidd yn ganolog gan y brifysgol ar yr hyn sy'n digwydd a beth yw'r camau nesaf (rydym yn ymwybodol y bydd y canllawiau hyn yn newid yn gyflym!)

🎓 Gweithio gyda'r brifysgol i greu Polisi “Rhwyd Ddiogelwch” ychwanegol sy'n rhoi ystyriaeth i bolisi'r llynedd ac sy’n cynnig rhwyd ddiogelwch i fyfyrwyr o ran eu graddau

💰Gofyn i'r brifysgol sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr y mae COVID wedi effeithio arnynt

 ✍️ Ysgrifennu at landlordiaid a neuaddau preifat i'w lobïo i leihau rhent myfyrwyr yn sylweddol, neu ei ddileu’n gyfangwbl, eto gyda chefnogaeth y brifysgol trwy lythyrau a ysgrifennwyd ymlaen llaw.

 

Rydym hefyd yn lobïo Llywodraeth Cymru i adolygu ffioedd dysgu ac ad-dalu dyledion myfyrwyr. Byddwn yn ymuno ag ymgyrch ‘Mae Myfyrwyr yn Haeddu Gwell’ UCM #StudentDeserveBetter; dilynwch yr hashnod ac ychwanegwch eich enw at yr ymgyrch trwy wefan UCM. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn yr ydym ni ac UCM Cymru yn ei wneud ynglŷn â’r mater hwn.

 

 

Rydyn ni yma i sicrhau eich bod chi'n cael cefnogaeth trwy gydol eich amser yn y brifysgol; dros yr wythnosau nesaf byddwn ni’n:

 

🏃 Sefydlu gweithgareddau parhaus, o glybiau llyfrau i glybiau rhedeg (ar-lein am y tro)

👋 Creu digwyddiadau croeso i'r rhai sy'n ymuno â'r brifysgol ym mis Ionawr o'n carfannau yn Llundain a Birmingham

🌱  Sefydlu eich Interniaethau INSPIRE er mwyn parhau â’n gwaith ar gynaliadwyedd

🗳️ Sicrhau eich bod chi'n gwybod am ddemocratiaeth yr undeb, o ran cynghorau campws ac Etholiadau'r Gwanwyn

🤝 Recriwtio Cynorthwyydd Iechyd a Llesiant (aelod staff llawn-amser) a fydd yn mynd ati i greu gweithgareddau cadarnhaol ac iachus, yn ogystal ag ymgyrchoedd i wella ymddygiad myfyrwyr er budd eu hiechyd

📣 Cynnig cymorth i Brentisiaid i leisio'u barn trwy'r adolygiad allanol o Brentisiaethau ym mis Chwefror / Mawrth

🏳️‍🌈 Rhoi mwy o gefnogaeth i'ch Grwpiau Rhyddhad! 

🧠  Lansio ymgyrch ynghylch iechyd meddwl myfyrwyr a bod yn gefn i chi trwy unrhyw asesiadau

💸 System grant newydd ar gyfer clybiau a chymdeithasau sy'n haws i fyfyrwyr gael mynediad iddi a gwneud cais, fel y gall eich gweithgareddau myfyrwyr fod hyd yn oed yn well

👍 Dathlu’r ffaith bod tîm UM Caerfyrddin yn dod yn ôl i'w aelodaeth gyflawn

 

Rydyn ni wedi esbonio'r holl bethau rydyn ni'n eu gwneud nawr, ond nid yw hyn ond megis dechrau egluro'r gwaith mae swyddogion yn ei wneud yn ddyddiol o ran eu maniffestos ac wrth gynnig cymorth i chi. Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiad o'r amgylchedd dysgu cymysg, ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, trwy'r arolwg hwn. Rydym hefyd yn awyddus i glywed a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i helpu; cysylltwch â ni trwy e-bostio undeb@uwtsd.ac.uk - rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd, felly rhowch wybod i ni os oes yna unrhyw ffordd y gallwn ni helpu!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...