Fel y byddwch wedi gweld o bosib, rydym wedi bod yn postio am “Brosiect Interniaid Inspire”. Cynhaliwyd digwyddiadau, teithiau a gweithdai yn ymwneud â chynaladwyedd a cheisio byw ychydig yn wyrddach.
Ond pwy yw'r bobl y tu ôl i'r hyn rydych chi wedi'i weld?
Fe wnaethon ni estyn allan at ein Interniaid Inspire i ysgrifennu darn bach am bwy ydyn nhw, beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a pham roedden nhw eisiau cymryd rhan yn y prosiect.
Felly, byddwn yn trosglwyddo i'r Interniaid Inspire!
Beth yw eich enw a beth yw eich rôl yn y Prosiect Interniaid Inspire?
Helo, fy enw i yw Anastasiia a fi yw'r intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd yn Llambed.
Beth yw eich arwydd Sidydd?
Y Llew
Dywedwch wrthym beth wnaethoch chi ei gyflawni.
Rwyf wedi gweithio'n agos gydag interniaid eraill yn Llambed i'w helpu gyda'u digwyddiadau a'u gweithdai.
Rwyf hefyd wedi helpu i lansio’r arddangosfa gelf ar Gampws Llambed; rydym wedi bod yn cyflwyno darnau celf gan bobl leol a myfyrwyr Llambed. Thema'r arddangosfa yw'r Fam Ddaear / Hiraeth.
Mae amrywiaeth y gweithiau celf yn enfawr: paentiadau, cerflunwaith, cerameg, cerfiadau (pren, carreg), ffotograffiaeth, barddoniaeth, animeiddio, a.y.b.
Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer yr interniaeth hon?
Roedd gen i ddiddordeb mewn gweithio’n agos gyda’r brifysgol a’r gymuned leol i gyfrannu at ein cymuned fach. Yn ogystal, mae'n gyfle gwych i gael rhywfaint o brofiad rheoli prosiect.
Beth yw eich enw a beth yw eich rôl yn y Prosiect Interniaid Inspire?
Debby Mercer ydw, i a fi yw intern Tir Glas.
Dywedwch wrthym beth wnaethoch chi ei gyflawni.
Rwyf wedi llwyddo i wneud llwyth o bethau ar gyfer y prosiect hwn; rwyf wedi cynnal gweithdy ffeltio â nodwydd gyda'r gwasanaeth llesiant.
Cynhaliais arddangosfa ar wlân ar gyfer fy nhraethawd hir sy'n cyd-fynd â phrosiectau eraill ar gyfer y rôl Tir Glas.
Fel grŵp, bu interniaid INSPIRE yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal gweithdai am lapiadau bwyd y gellir eu hailddefnyddio ac eco-lifo i uwchgylchu dillad a mwy, i gyd ar gyfer yr Wythnos Werdd ym mis Mai. Ar ddiwedd Mai cynhaliais Fforwm Gwlân yn y gymuned leol, gyda chefnogaeth Tir Glas, i hwyluso cyfathrebu rhwng cynhyrchwyr gwlân a defnyddwyr gwlân. Y Fforwm Gwlân yw fy mhrosiect mawr, ac rwy’n gobeithio parhau i weithio gyda Tir Glas ar ôl i’m interniaeth ddod i ben.
Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer yr interniaeth hon?
Fe wnes i gais ar gyfer yr interniaeth hon oherwydd mae fy mywyd wedi bod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd ers amser maith ac mae gen i angerdd am wlân fel adnodd cynaliadwy, adnewyddadwy na chaiff ei ddefnyddio'n ddigonol.
Beth yw eich enw, a pha interniaeth ydych chi'n rhan ohoni?
Redhwan Al-amri; rwy’n rhan o intern Interniaeth Inspire - Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd ar gyfer Abertawe.
Beth yw eich arwydd Sidydd?
Y Cranc
Dywedwch wrthym beth wnaethoch chi ei gyflawni.
Rwyf wedi cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio gwaddod coffi mewn garddio, ac rwyf wedi ysgrifennu blog yn sôn am fanteision coffi i'ch gardd.
Rwyf wedi hyrwyddo arferion cynaliadwy ar gampysau PCyDDS (Abertawe) ac wedi helpu defnyddwyr / garddwyr drwy ddarparu gwaddod coffi am ddim iddynt sy’n cael ei gasglu a’i ail-becynnu o'r holl gaffis ar gampysau PCyDDS Abertawe.
Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer yr interniaeth hon?
Rwy'n credu mewn hyrwyddo cynaladwyedd, gan mai dim ond nifer gyfyngedig o adnoddau y gall ein planed eu cynhyrchu 'o fwyd i ddŵr'. Dim ond un Ddaear sydd gennym ac rydym yn gwbl ddibynnol arni am ein goroesiad a'n llesiant.
Beth yw eich enw, a pha interniaeth ydych chi'n rhan ohoni?
Fy enw i yw Samantha Measor, a fi yw intern Cartrefu Bywyd Gwyllt Amrywiol.
Beth yw eich arwydd Sidydd?
Rwy'n Capricorn, sy'n wych i mi oherwydd fy mod yn caru geifr.
Dywedwch wrthym beth wnaethoch chi ei gyflawni.
Rwyf wedi cynnal gweithdy i wneud casglwyr dŵr glaw. Mae'r rhain i’w gweld o amgylch cefn blociau llety ABN. Bydd y dŵr a gasglwn yn cael ei ddefnyddio i ddyfrio ein planhigion yn y llety.
Rwyf hefyd wedi gwneud tai draenogod a osodwyd o amgylch y campws. Dylai'r rhain, gobeithio, annog a diogelu'r draenogod.
Pam wnaethoch chi ymgeisio ar gyfer yr interniaeth hon?
Penderfynais wneud cais ar gyfer yr interniaeth hon oherwydd mae gen i angerdd dros natur ac anifeiliaid ac roeddwn i eisiau helpu'r brifysgol gyda chynaladwyedd i helpu ag annog a gofalu am fywyd gwyllt.
Mae Interniaiad INSPIRE Mae Interniaiad INSPIRE yn brosiect ar y cyd rhwng myfyrwyr PCyDDS, Undeb y Myfyrwyr ac adran INSPIRE. Dysgwch fwy yn at www.uwtsdunion.co.uk/inspire-interns.