Fy enw i yw Amy ac ers fy mod i’n 13 oed, rydw i wedi bod yn codi arian i elusennau. Mae’r elusennau rydw i wedi codi arian ar eu cyfer yn cynnwys Tenovus, Ymchwil Canser Cymru, Dogs Trust, Mind, Ysbyty Great Ormond Street ac elusen lai, Jade’s Wish to Walk. Llwyddodd fy nigwyddiadau codi arian ar gyfer Jade’s Wish to Walk i godi dros £3,000; gan sicrhau digon o arian iddi allu cyrraedd America ar gyfer llawdriniaeth a newidiodd ei bywyd. Mae Jade nawr yn dysgu cerdded. Rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth â fy hen goleg, ysgol, cerddorion, digrifwyr, consurwyr, diddanwyr plant a mwy i drefnu digwyddiadau llwyddiannus. Byddwn wrth fy modd yn parhau i godi arian yn ystod fy mlynyddoedd yn y brifysgol. Gallaf addo digwyddiadau newydd hwyliog a difyr. Fy mhrif nod yw codi arian ar gyfer elusennau, tra'n darparu digwyddiadau i fyfyrwyr ymwneud â nhw, a bod yn un o'r swyddogion gorau y mae'r brifysgol wedi'i chael, os nad y gorau. Rwy'n gwrthod eich siomi.