Mae Interniaid Cenhadaeth Ddinesig yn gweld ein myfyrwyr fel y grym y tu ôl i wella ein cymunedau ar gyfer y dyfodol drwy brosiectau sy'n hybu ymgyrchu, yn hyrwyddo cynhwysiant, yn datblygu arloesedd, ac yn annog byw’n fwy cynaliadwy. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng myfyrwyr PCyDDS, Undeb y Myfyrwyr, a’r Brifysgol. Yn y bôn, mae'n golygu myfyrwyr yn rhoi’n ôl i'r cymunedau a'u lluniodd ac yn cyfrannu at ddyfodol gwell.
Arweinir y prosiect hwn gan dîm o 13 intern. Mae pob intern yn cynnal eu prosiect eu hunain ar draws un o gampysau PCyDDS. Gallwch weld y digwyddiadau sydd ar y gweill a diweddariadau isod ✌️.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am brosiect Interniaid INSPIRE, anfonwch neges atom yn union@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.