Paentio Serameg ar gyfer Calan Gaeaf!

  • Halloween thumbnail

Paentio Serameg ar gyfer Calan Gaeaf!

Paentio Serameg ar gyfer Calan Gaeaf!
Nos Mawrth, 27 Hydref 2026, 17:00 – 19:00

Dyma'ch cyfle i dreulio amser gyda'ch ffrindiau a bod yn greadigol yn ein digwyddiad 'Give it a Go' ym mis Hydref, drwy baentio eich pwmpen seramig neu het wrach eich hun ar gyfer Calan Gaeaf!

Byddwn ni'n darparu'r holl offer, felly'r cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw eich brwdfrydedd. Mae'r digwyddiad hamddenol hwn yn ffordd berffaith o ddathlu'r tymor a dod o hyd i ffrindiau wrth addurno’ch pwmpenni. 
Dim cerfio, dim llanast – dim ond cyfle i ymlacio a mwynhau sesiwn grefftau hamddenol.

Tocynnau
Mae'r digwyddiad yn costio £2.50 i bob myfyriwr, ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly mae angen archebu lle. Mae tocynnau i'r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr yn costio £3; bydd llai o'r rhain ar gael.

Y Cynllun
Cyrraedd Undeb y Myfyrwyr am 17:00.
Byddwch chi'n cael eich pwmpen neu het wrach a phaentiau.
Cewch dreulio’r noson yn paentio, yn sgwrsio, ac yn mynd i ysbryd yr hydref.
Byddwn yn gorffen tua 19:00.

Hygyrchedd
Cynhelir y digwyddiad hwn dan-do mewn lleoliad hygyrch i gadeiriau olwyn ar y campws.
Bydd byrddau a chadeiriau’n cael eu darparu.
Bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel isel.

Gwybodaeth Bwysig
Bydd ffedogau ar gael ond rydym yn argymell gwisgo dillad nad oes ots gennych chi gael paent arnynt.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : SU Snug, Students' Union, Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 27-10-2026 - 17:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 27-10-2026 - 19:00

Nifer y lleoedd: 20

Manylion cyswllt

Rebecca

su.opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau