
Un Noson, Dau Ddigwyddiad - Cwis a Disgo. Ymunwch â ni am noson o bleser dychrynllyd wrth i ni gofleidio popeth sy'n ymwneud â Chalan Gaeaf ar gampws Caerfyrddin gyda'n Gŵyl Arswyd Calan Gaeaf.
Archebwch eich tocynnau. Mae ein Gŵyl Arswyd Calan Gaeaf yn ddigwyddiad am ddim, ond mae angen tocynnau. Gallwch archebu tocyn ar gyfer y cwis, y disgo, neu'r ddau ohonynt - ond mae angen i chi gofrestru, gan y byddai hyn yn ein helpu ni'n fawr â'n cynllunio.
Digwyddiad 1: Cwis Calan GaeafNos Fercher 28ain Hydref, 18:00 - 20:00
Gofod Cymdeithasol yr UM, Adeilad Dysgu ac Addysgu
Rhowch brawf ar eich ymennydd yn ein Cwis Calan Gaeaf heriol iawn, dan ofal ein cwis-feistr preswyl, Laura.
Fe’i cynhelir yng Ngofod Cymdeithasol yr UM yn adeilad Dysgu ac Addysgu, a bydd diodydd ar gael.
Byddwn ni'n trefnu timau ar y diwrnod, felly dewch gyda'ch ffrindiau neu ar eich pen eich hun. Bydd y tîm buddugol yn cael llond basged o ddanteithion blasus.
Digwyddiad 2: Disgo Calan GaeafNos Fercher 28ain Hydref, 21:00 - 00:00
Merlin yn Adeilad Halliwell
Byddwch yn barod am noson ysbrydol wrth i ni drawsnewid Merlin yn barti Calan Gaeaf anhygoel ar y campws!
Mae hi'n mynd i fod yn noson o bleser dychrynllyd, cerddoriaeth i’ch cyflyru, ac awyrgylch i’ch ysbrydoli. A gwisgwch i greu argraff (neu i ddychryn!) - bydd gwobr i'r sawl sydd wedi'i wisgo orau!
Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth wych gan ein DJ, bydd y lle wedi’i addurno ar thema, a bydd awyrgylch i farw drosto; a bydd y bar yn gweini'ch holl ffefrynnau.
Mae ein Gŵyl Arswyd Calan Gaeaf yn ddigwyddiad am ddim, ond mae angen tocynnau. Gallwch archebu tocyn ar gyfer y cwis, y disgo, neu'r ddau ohonynt - ond mae angen i chi gofrestru, gan y byddai hyn yn ein helpu ni'n fawr â'n cynllunio.
Mae angen i chi archebu cyn dydd Iau 15 Hydref
Lleoliad : SU Social Space in T&L & Merlin Suite in Halliwell
Math: Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 28-10-2026 - 18:00
Dyddiad gorffen: Dydd Iau 29-10-2026 - 00:00
Students' Union
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.