Ystafell Ddianc PERSON AR GOLL

  • 2526   giag   swansea thumbnail2

Ystafell Ddianc PERSON AR GOLL


Ystafell Ddianc PERSON AR GOLL

 
Ble: Ystafell Drochi Y Fforwm - rhif ystafell FF003 
Pryd: 4ydd Tachwedd
Amser:  4 sesiwn 25 munud 
Grŵp 1 – 13:30 – 13:55 
Grŵp 2 – 13:55 – 14:20 
Grŵp 3 – 14:20 – 14:45 
Grŵp 4 – 14:45 – 15:10


Mae rhywun wedi mynd ar goll, a'r unig ffordd i ddod o hyd iddyn nhw yw gweithio mewn grŵp o 5 i ddod o hyd i'r codau cywir.  


Mae'r ystafell ddianc hon a ddyluniwyd gan y Brifysgol yn canolbwyntio ar ymchwilio, a chwilio am dystiolaeth, i ddod o hyd i'r codau, cyn datgelu'r prif gôd.


Bydd gennych chi 25 munud i gwblhau'r dasg hon.  Os ydych chi eisiau seibiant o'ch diwrnod a her wahanol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu lle. 


Os ydych chi eisiau cymryd rhan yr un adeg â'ch ffrindiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu'r un rhif grŵp ar y tocynnau. 


Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae angen i chi gofrestru. 


Hygyrchedd:


•    Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i leoli yn SA1 ar lawr gwaelod adeilad Y Fforwm; mae mynediad i'r ystafell hon yn wastad a dylai'r gofod ei hun fod yn addas os yw mynychwr yn defnyddio cadair-olwyn neu unrhyw gymhorthion symudedd corfforol eraill fel ffyn-baglau. 
•    Mae stori'r Ystafell Ddianc yn ymwneud â pherson sydd ar goll, ond mae'r ffocws yn fwy ar ddatrys codau nag ydyw ar y stori ei hun. Fodd bynnag, os gallai'r pwnc hwn fod yn ofidus i chi, yna byddem yn cynghori yn erbyn mynychu. 
•    Bydd sgriniau a sain yn cael eu defnyddio yn yr ystafell drochi, felly gadewch i ni wybod os ydych chi'n cael eich effeithio gan oleuadau llachar, delweddau'n fflachio neu synau uchel. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn, rhowch wybod i ni. 
 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Immersion Room Y Fforwm - room number FF003

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 04-11-2026 - 13:30

Dyddiad gorffen: Dydd Mercher 04-11-2026 - 15:10

Nifer y lleoedd: 20

Manylion cyswllt

Rebecca

su.opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau