Ystafell Ddianc PERSON AR GOLL
Ble: Ystafell Drochi T&L - TL003
Pryd: 16ydd Hydref
Amser: 4 sesiwn 25 munud
Grŵp 1 – 12:00 – 12:25
Grŵp 2 – 12:35 – 13:00
Grŵp 3 – 13:15 – 13:40
Grŵp 4 – 13:50 – 14:15
Mae rhywun wedi mynd ar goll, a'r unig ffordd i ddod o hyd iddyn nhw yw gweithio mewn grŵp o 5 i ddod o hyd i'r codau cywir.
Mae'r ystafell ddianc hon a ddyluniwyd gan y Brifysgol yn canolbwyntio ar ymchwilio, a chwilio am dystiolaeth, i ddod o hyd i'r codau, cyn datgelu'r prif gôd.
Bydd gennych chi 25 munud i gwblhau'r dasg hon. Os ydych chi eisiau seibiant o'ch diwrnod a her wahanol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu lle.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan yr un adeg â'ch ffrindiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu'r un rhif grŵp ar y tocynnau.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae angen i chi gofrestru.
Hygyrchedd:
• Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i leoli1 ar lawr gwaelod adeilad T&L; mae mynediad i'r ystafell hon yn wastad a dylai'r gofod ei hun fod yn addas os yw mynychwr yn defnyddio cadair-olwyn neu unrhyw gymhorthion symudedd corfforol eraill fel ffyn-baglau.
• Mae stori'r Ystafell Ddianc yn ymwneud â pherson sydd ar goll, ond mae'r ffocws yn fwy ar ddatrys codau nag ydyw ar y stori ei hun. Fodd bynnag, os gallai'r pwnc hwn fod yn ofidus i chi, yna byddem yn cynghori yn erbyn mynychu.
• Bydd sgriniau a sain yn cael eu defnyddio yn yr ystafell drochi, felly gadewch i ni wybod os ydych chi'n cael eich effeithio gan oleuadau llachar, delweddau'n fflachio neu synau uchel. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn, rhowch wybod i ni.
Lleoliad : Immersive Room, T&L Building
Math: Caerfyrddin, Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 16-10-2026 - 12:00
Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 16-10-2026 - 14:30
Nifer y lleoedd: 20
SU Opportunities
SU.Opps@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.