Dydd Mawrth Darbodus!

  • 2526   giag   swansea thumbnail
  • Dydd Mawrth Darbodus! Dylan Thomas Centre Dydd Mawrth 13-10-2026 - 11:00 tan Dydd Mawrth 13-10-2026 - 13:00

Dydd Mawrth Darbodus!

Gadewch i ni fod yn ddarbodus!

Ymunwch â Llywydd Campws Caerdydd ac Abertawe, Layla, am Ddydd Mawrth Darbodus o amgylch Abertawe. 

Mewn byd o ffasiwn gyflym a chostau byw uchel, mae cael gafael ar eitemau ail-law neu hyd yn oed eitemau newydd sydd heb eu defnyddio mewn siopau elusen a siopau hen bethau yn ymddangos fel yr ateb perffaith. Cymerwch seibiant o'r bargeinion ar-lein a dewch gyda ni i gael golwg o gwmpas yr ardal leol am fargeinion na fyddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw yn unman arall!

Pryd: Dydd Mawrth 13eg Hydref
Amser: Cyfarfod am 11am
Ble: Canolfan Dylan Thomas

Byddwn yn cwrdd â chi yn nerbynfa Canolfan Dylan Thomas, ac yn dechrau trwy archwilio'r Cwpwrdd Cymunedol ar y safle am unrhyw eitemau am ddim a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Dewch â'ch bagiau siopa a rhestr o unrhyw hanfodion rydych chi'n chwilio amdanynt, ac fel grŵp byddwn ni i gyd yn mynd ati i chwilio gyda'n gilydd.

Yna byddwn yn mynd i mewn i'r dref ac yn edrych o gwmpas y nifer o siopau elusen a siopau hen bethau sydd ar garreg y drws. 

Mynnwch docyn fel ein bod ni'n gwybod eich bod chi'n dod; nid yw’n costio unrhyw beth i gael tocyn, ond dim ond os ydych chi'n bwriadu ymuno â ni y dylech chi gael gafael ar un. 

Hygyrchedd

 

  • Mae'r rhan fwyaf o Abertawe yn weddol wastad, er y gall rhai slabiau palmant fod yn anwastad; byddwch yn ymwybodol o hyn os oes gennych chi unrhyw anawsterau symudedd. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio cadw at dir gwastad, llyfn lle bo modd. 
  • Byddwn yn cadw gyda’n gilydd mewn grŵp i gerdded o gwmpas, ond ar ryw adeg efallai y bydd yn rhaid i staff Undeb y Myfyrwyr adael. Os ydych chi'n poeni am fod ar eich pen eich hun mewn lle newydd, rydym yn awgrymu dod â ffrind gyda chi a sicrhau bod gennych chi ffôn wedi'i wefru'n llawn. 
     

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 13-10-2026 - 11:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 13-10-2026 - 13:00

Manylion cyswllt

Rebecca

su.opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau