Hen Far

 

Llogi’r Hen Far, Llambed

Ardal bar eang sy'n ddelfrydol ar gyfer partïon a chyfarfodydd anffurfiol. Rydym yn cynnig pecynnau hyblyg ar gyfer llogi lleoliadau, wedi'u teilwra i'ch anghenion.

Archebu ac Ymholiadau

Gallwch archebu gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm llogi lleoliadau uwtsdbooking@uwtsd.ac.uk.

Gwnewch Drefniant

Cyfeiriad

Undeb y Myfyrwyr, PCyDDS Campws Caerfyrddin, Stryd y Coleg, Llambed, SA48 7ED

Cyfleusterau'r Lleoliad

Hygyrchedd ♿

Mae’r Hen Far wedi ei leoli ar y llawr gwaelod. Mae'r bar a'r rhan fwyaf o'r ardaloedd eistedd ar lawr gwastad, ond ceir mynediad i un ardal â seddi gan ddefnyddio grisiau.

Wi-Fi 💻

Rydym yn cynnig Wi-Fi, gyda phob gwestai yn derbyn côd mewngofnodi unigryw.

Teledu a Thaflunyddion 📽️

Gallwch ddefnyddio ein sgriniau teledu a thaflunyddion ar gyfer eich cyflwyniadau.

Meic a Seinyddion  🎤

Rydym yn cynnig system meic a seinyddion.

Lluniaeth Ysgafn ☕

Gallwn gynnig amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd i weddu i'ch anghenion.

Parcio 🚗

Mae parcio ar gael ar y safle am dâl. Mae manylion llawn ar gael ar wefan parcio'r brifysgol.

Trefniadau’r Byrddau 🪑

Rydym yn cynnig trefniadau eistedd hyblyg i weddu i'ch anghenion.

Toiledau 🚽

Mae yna gyfleusterau toiled ar y safle, gan gynnwys toiled penodol i bobl anabl.