Gofod mawr, cynllun agored, yn ddelfrydol ar gyfer partïon, cyfarfodydd anffurfiol, a diwrnodau datblygu/hyfforddiant staff. Rydym yn cynnig pecynnau hyblyg ar gyfer llogi lleoliadau, wedi'u teilwra i'ch anghenion.
Gallwch archebu gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm llogi lleoliadau uwtsdbooking@uwtsd.ac.uk.
Undeb y Myfyrwyr, PCyDDS Campws Caerfyrddin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP
Mae’r Llofft wedi ei lleoli ar ein llawr cyntaf; mae’n hygyrch trwy ddefnyddio lifft a grisiau, gyda lloriau gwastad ym mhobman.
Rydym yn cynnig Wi-Fi, gyda phob gwestai yn derbyn côd mewngofnodi unigryw.
Gallwch ddefnyddio ein sgriniau teledu a thaflunyddion ar gyfer eich cyflwyniadau.
Rydym yn cynnig system meic a seinyddion.
Gallwn gynnig amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd i weddu i'ch anghenion.
Mae parcio ar gael ar y safle am dâl. Mae manylion llawn ar gael ar wefan parcio'r brifysgol.
Rydym yn cynnig trefniadau eistedd hyblyg i weddu i'ch anghenion.
Mae yna gyfleusterau toiled ar y safle, gan gynnwys toiled penodol i bobl anabl.