Mae Interniaid Inspire yn fyfyrwyr sy'n gweithredu dros amgylchedd gwell, dyfodol mwy cynaliadwy a chymuned fwy clòs. Mae Interniaid Inspire yn bartneriaeth rhwng myfyrwyr, eich Undeb Myfyrwyr, a'ch Prifysgol, ac maent yn dod i'r amlwg ar draws ein campysau, yn cynnal digwyddiadau i helpu i'ch grymuso i fyw bywyd mwy cynaliadwy.
Arweinir y prosiect hwn gan dîm o 10 intern. Mae pob intern yn cynnal eu prosiect eu hunain ar draws un o gampysau PCyDDS. Gallwch weld y digwyddiadau sydd ar y gweill a diweddariadau isod ✌️.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Inspire, anfonwch neges atom union@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.