Amy Mercy

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Amy ydw i, ac rwyf yn falch iawn o fod wedi cael fy ailbenodi am ail flwyddyn fel Myfyriwr Ymddiriedolwr ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb. Rwy’n ddysgwr ôl-raddedig o bell gyda PCyDDS, ar hyn o bryd yn gweithio ar fy nhraethawd hir ar gyfer gradd mewn Crefyddau Hynafol. Enillais radd yn y Clasuron o’r Brifysgol Agored yn 2021, ac rwy’n angerddol am fanteision a heriau dysgu o bell.

 Rwy'n byw yng nghefn gwlad Swydd Rhydychen gyda fy ngŵr Phil. Yn aml byddaf yn cerdded ar hyd bryniau a llwybrau'r dirwedd hynafol hardd hon, yn creu cerddoriaeth yn ein stiwdio recordio, neu'n treulio amser mewn heddwch gyda'r gwlithod a'r pryfed yn ein gardd lysiau sy'n ehangu'n barhaus.