Ashley Storer-Smith

Ymddiriedolwr Allanol, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Archwilio a Risg

Helo, Fy enw i yw Ashley Storer-Smith (nhw) ac rwy’n ymddiriedolwr allanol yn UM PCyDDS. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Nottingham fel eu Rheolwr Llais Myfyrwyr, yn ogystal â bod yn gyfrifol am gynnal Cyfres Gweminarau Ymgysylltiad Myfyrwyr misol Unitu. Mae rhai pobl yn fy ngalw i'n ‘Disney Geek’ a byddaf bob amser yn mynd i Disney on Ice, Disney in Concert, sioeau’r West End, a Disneyland Paris pryd bynnag y byddaf wedi cynilo digon o arian. Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r profiad o fynd i’r sinema ac yn mwynhau gwylio ystod eang o ffilmiau ar y sgrin fawr. Rwyf wrth fy modd yn bod yn Ymddiriedolwr yn UM PCyDDS, gan fy mod i’n mwynhau gweithio a chynnig cymorth i UMau bach ac arbenigol. Mae’r ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth yn ddiguro, ac rwyf yn falch iawn fy mod i’n gallu gwneud cyfraniad i hyn fel Ymddiriedolwr.