Dan Priddy

Ymddiriedolwr Allanol

Dan ydw i ac rwy'n ymddiriedolwr allanol ar fwrdd yr UM gyda ffocws penodol ar faterion cyllid ac archwilio. Rwy'n briod â Charlotte ac mae gennym ferch 3 oed, Elinor.

Dechreuais weithio yn PCyDDS yn 2017, yn gyntaf gyda’r tîm Ystadau ac yn awr yn yr adran Gyllid, gan weithio fel Partner Busnes Cyllid i’r timau Ystadau a Gwasanaethau Digidol. Rwyf hefyd yn rheoli Yswiriant a Chyfleustodau’r Brifysgol. Yn ogystal, rwy’n eistedd ar Grŵp Llywio Cynaliadwyedd y Brifysgol, gan helpu i weithio tuag at eu targedau sero-net. Rwyf hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru ac yn eistedd ar ei Is-bwyllgor ‘Gweithgareddau’r Eglwys dros Gynnal yr Amgylchedd'.  

Cefais fy magu ger Reading ond symudais i Aberystwyth yn 2008 er mwyn mynd i’r brifysgol i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol gan raddio yn 2011, ac yn 2015 enillais radd Meistr o Brifysgol.