Galina Bleidere

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Helo, Galina Bleidere ydw i, ac rwy'n teimlo’n gyffrous i fod yn Ymddiriedolwr yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS. Rwy'n angerddol dros iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd fy mod i'n credu'n wirioneddol ym mhŵer helpu ein gilydd a sicrhau bod pawb yn gallu cael cefnogaeth. Rydw i wedi bod yn rhan o raglen lloches i'r digartref, a ddysgodd lawer i mi am empathi, cefnogaeth gymunedol, a sefyll dros hawliau pobl. Mae bod yn Fyfyriwr Ymddiriedolwr yn brofiad amhrisiadwy i mi oherwydd ei fod yn agor drysau newydd, yn fy helpu i feithrin cysylltiadau â phobl anhygoel, ac yn caniatáu i mi dyfu fel arweinydd. Rwyf hefyd wrth fy modd yn teithio, sydd wedi rhoi persbectif ehangach i mi ar wahanol ddiwylliannau a phrofiadau. Fel Ymddiriedolwr, rydw i yma i wneud yn siŵr bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed a bod yr Undeb yn parhau i fod yn fudiad ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth.