Lewis Israel

Ymddiriedolwr Allanol, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Marchnata a Masnacheiddio

Shwmae - Lewis ydw i ac mae'n bleser gen i fod yn ymddiriedolwr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rwy’n dod o Gymoedd De Cymru yn wreiddiol, ond symudais i Fryste yn 2022. Astudiais ar gyfer BSc (Anrh) mewn Bioleg ac MA mewn Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio mewn ysgol annibynnol ym Mryste yn cynorthwyo â chyfathrebu ers 2023.

Cyn hynny bûm yn gweithio gyda Phrifysgolion Cymru fel rhan o raglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prifysgolion Cymru â phartneriaethau rhyngwladol a recriwtio. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Rheolwr Brand a Chyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Rwy'n angerddol am addysg a'r pŵer sydd ganddi i newid bywydau pobl, yn enwedig pobl yng Nghymru.

Rwy'n mwynhau gweithio yn y sector hwn ac yn dod â phrofiad o ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i'm rôl. Y tu allan i'r gwaith, rydw i wrth fy modd yn darllen; Stephen King yw fy hoff awdur.