
Bethan Foweraker
Ymddiriedolwr Allanol
Helo, Bethan ydw i ac rydw i wedi bod yn ymddiriedolwr allanol ar gyfer UM PCyDDS ers 2021. Ers graddio fy hun o Brifysgol Aberystwyth yn 2010, rwyf wedi bod â diddordeb brwd mewn undebau myfyrwyr a phwysigrwydd llais y myfyrwyr. Rwyf wedi bod yn swyddog sabothol yn flaenorol, ac wedi gweithio mewn undebau myfyrwyr a darparwyr addysg uwch. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i Goleg Bridgwater a Taunton fel eu Pennaeth Ymgysylltu â Myfyrwyr, ac mae Undeb y Myfyrwyr yn dod o fewn fy nghylch gorchwyl. Rwy’n angerddol am ymgysylltu â myfyrwyr a chefnogi mentrau sy’n gwneud profiad myfyrwyr y gorau y gallant fod. Y tu allan i fy myd ymgysylltu â myfyrwyr, rwy’n wirfoddolwr angerddol gyda Llu Cadetiaid y Fyddin. Ar hyn o bryd rwy'n dal swydd Capten ac yn ddirprwy arweinydd Cwmni A, Llu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg. Mae gen i ddau Cavachon blewog hefyd, sef Rosie a Rupert.