Jen ydw i, a fi yw Llywydd Campws Caerfyrddin ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers mis Ionawr 2015, ac ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer MA mewn Astudiaethau Canoloesol.
Yn fy ail flwyddyn fel myfyriwr israddedig yn y Drindod Dewi Sant, roeddwn i'n gynrychiolydd cwrs Hanes ac Astudiaethau Canoloesol, ac ym mis Mai 2023 dechreuais fel intern gwirfoddol yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen a'r Casgliadau Arbennig ar gampws Llambed PCyDDS.
Rwy'n mwynhau canu, yn enwedig polyffoni'r Dadeni, ac rwyf wrth fy modd yn darllen ac yn mwynhau her dysgu ieithoedd a systemau ysgrifennu. Rwy'n gwirfoddoli gyda Girl Guiding Cymru yng Ngheredigion, ac yn gweithio gyda’r Brownies a’r Guides; rwy'n arweinydd ar gyfer Rangers 1af Llanbed. Rwy'n angerddol am addysg, cynhwysiant, a mynediad at addysg, ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant Makaton. Rwy'n edrych ymlaen at eirioli dros fyfyrwyr a'u cefnogi yn ystod fy nghyfod yn y rôl a gwella eu profiad o astudio yn y Drindod Dewi Sant.