Mae’r gyllideb ar gyfer yr undeb yn mynd gerbron yr is-bwyllgor hwn cyn ei chyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae'r is-bwyllgor hefyd yn adolygu gwariant ac incwm yr undeb drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod adolygiad o’r flwyddyn, mae’n bosibl y bydd yr is-bwyllgor yn argymell unrhyw welliannau i'r gyllideb. Mae'r pwyllgor hefyd yn sicrhau bod yr holl adroddiadau ariannol statudol a rheoliadol priodol yn cael eu cynnal.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys tri Ymddiriedolwr Sabothol; un Myfyriwr Ymddiriedolwr; un Ymddiriedolwr Allanol a'r Dirprwy Is-Ganghellor (neu eu henwebai) fel aelodau llawn. Mae'r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Cyllid yn darparu cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor.
Mae Iechyd a Diogelwch yn bwysig ym mhob mudiad, mae'r is-bwyllgor hwn yn datblygu, yn cynnal ac yn asesu polisïau a safonau Iechyd a Diogelwch yr UM. Mae'n sicrhau bod yr undeb yn cadw at ddeddfwriaeth a safonau perthnasol. Yn ogystal â hynny, mae'n sicrhau bod adroddiadau clir rhwng y brifysgol ac undeb myfyrwyr ynghylch Iechyd a Diogelwch.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys y Prif Weithredwr (fel Cadeirydd); un Ymddiriedolwr Sabothol; un Ymddiriedolwr Allanol; ac un Myfyriwr Ymddiriedolwr. Mae’r Rheolwr Busnes a Chyllid; cynrychiolydd o adran Iechyd a Diogelwch PCyDDS; a chydlynydd Datblygu Myfyrwyr i gyd yn mynychu i gynorthwyo gwaith y pwyllgor.
Mae hefyd yn adolygu perfformiad y Bwrdd ei hun, gan ystyried sut y gellir cynnig cymorth i ymddiriedolwyr a sut mae'r mudiad yn paratoi ar gyfer sefyllfa pa fo unrhyw ymddiriedolwyr yn gadael eu rôl. Mae aelodaeth y pwyllgor hwn yn cynnwys y pedwar ymddiriedolwr sabothol ac un ymddiriedolwr allanol, ac maent yn derbyn diweddariadau gan Brif Weithredwr yr undeb a Rheolwr AD y brifysgol.
Mae’n gyfrifol am fonitro ac adolygu: recriwtio a dethol, tâl ac amodau cyflogaeth, y berthynas â’r staff a datblygu staff. Aelodau llawn y pwyllgor yw’r tri Ymddiriedolwr Allanol (1 fel Cadeirydd - Is-Gadeirydd ByrY), un Myfyriwr Ymddiriedolwr ac aelod allanol wedi’i benodi. Mae Prif Weithredwr yr UM a Rheolwr Adnoddau Dynol PCyDDS yn aelodau ex-officio.
Mae'r Is-bwyllgor Archwilio a Risg yn bodoli i fonitro rheolaethau a systemau rheoli risg mewnol Undeb y Myfyrwyr. Mae'r pwyllgor yn cynnwys dau Ymddiriedolwr Sabothol, un Myfyriwr Ymddiriedolwr ac un Ymddiriedolwr Allanol fel aelodau llawn. Mae'r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Cyllid yn aelodau ex officio. Mae angen archwilio'r Undeb yn allanol i sicrhau bod camau'n cael eu dilyn.