Elwyn Jones

Yn Sefyll am rôl Swyddog Y Myfyrwyr Traws

Helo, fy enw i yw Elwyn Jones. Rwy'n sefyll ar gyfer rôl Swyddog Hunaniaeth Rhywedd Llambed; rwyf wedi bod yn Swyddog Rhywedd ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol. Rwy’n sefyll ar gyfer y rôl hon eto gan fy mod yn teimlo bod mwy y gallaf ei gyflawni o hyd ar gyfer ein myfyrwyr Traws ac Anneuaidd yn PCyDDS. Os caf fy ethol byddaf yn ymgyrchu dros y canlynol: Ymgyrchu dros ychwanegu toiledau rhywedd-niwtral yn ychwanegol i’r toiledau un rhywedd presennol ar y campws, oherwydd gyda’r nifer cynyddol o fyfyrwyr anneuaidd sy’n mynychu PCyDDS rwy’n teimlo y byddai hyn yn ychwanegu at eu cysur tra ar y campws. Yn ail, byddwn yn ymgyrchu ac yn trefnu gweithdai o bryd i’w gilydd gyda'r bwriad o ddarparu sgiliau bywyd ar gyfer myfyrwyr traws ac anneuaidd; gallai hyn gynnwys pynciau fel colur, steilio, diogelwch cyflwyniad a hunan-eiriolaeth. Hefyd, byddaf yn eiriol dros osod cynhyrchion misglwyf ym mhob toiled; mae hyn oherwydd bod angen y cynhyrchion hyn ar bawb, a gall eu cael ar wahân fod yn tanseilio dilysrwydd myfyrwyr. Fy addewid olaf fydd adnodd ar gyfer myfyrwyr traws ac anneuaidd, gan sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i gyngor a chymorth perthnasol heb drafferth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pleidleisio yn ystod 04/03-07/03. 
Insta elwyn.gender