Yn Sefyll am rôl Swyddog Llesiant
Ar hyn o bryd fi yw cadeirydd Magnet UK, sef rhwydwaith proffesiynol, cymdeithasol a llesiant ar gyfer gyrfaoedd cynnar. Darparu cyfleoedd datblygu ledled y wlad o fewn Tata steel. Fy nod yw dod â'r sgiliau hyn i rôl swyddog llesiant.
Iechyd Meddwl - Hawl ddynol gyffredinol.
Torrir Stigma
I'r rhai nad ydyn nhw'n gwybod rydw i wedi cystadlu ar lefel uchel mewn bocsio amatur ers pan oeddwn i’n 14. Mae disgwyl i ymladdwyr fod yn “ddynion caled” y byd chwaraeon, heb eu heffeithio, heb eu cynhyrfu, nad yw unrhyw drafferthion emosiynol neu seicolegol yn tarfu arnyn nhw; fyddai dim byd yn gallu tanseilio eu cryfderau canfyddedig.
Dyma'r rheswm pam fod 'torri'r stigma' mor bwysig i mi, gan fy mod wedi cael profiad uniongyrchol gyda hyn ac ers blynyddoedd fe wnes i ei guddio i beidio ag edrych yn 'wan' ymysg fy nghyfoedion a'm gwrthwynebwyr.
Ymwybyddiaeth ac Atal
Mae ymchwil gan Mind wedi dangos y bydd un o bob pedwar ohonom yn cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl bob blwyddyn, gyda hunanladdiad yn parhau i fod y lladdwr mwyaf o ddynion o dan 45 yn y DU.
Rwy’n cyflwyno maniffesto sy’n ceisio chwalu stigmas, meithrin cynwysoldeb, a blaenoriaethu llesiant pob myfyriwr.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Rwyf wedi fy hyfforddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl,