Lynda Peters

Yn Sefyll am rôl Llywydd Campws Llambed

Profiad 

Fy enw i yw Lynda Violet Peters ac rwy'n hanu o ynys hardd St Vincent a'r Grenadines. Rwy’n fyfyriwr rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed. Rwy'n sefyll ar gyfer rôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Llambed. Rwyf ym mlwyddyn olaf fy ngradd baglor mewn datblygiad rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang. Fi yw'r Swyddog Myfyrwyr Croenddu presennol hefyd.

PRIF AMCANION

  • Cynnig mwy o gynrychiolaeth i fyfyrwyr trwy ddiwygio'r broses gwyno gan ei gwneud yn fwy hygyrch ac effeithlon i bob myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys eiriolaeth ar gyfer camwahaniaethu, adolygu canlyniadau academaidd a sancsiynau y gall myfyrwyr deimlo eu bod yn annheg.
  • Byddwn yn lobïo ac yn ceisio gwella ac uwchraddio llety, cyfleusterau ac adnoddau myfyrwyr.
  • Byddaf yn eiriol dros gynwysoldeb, amrywioldeb a dim goddefgarwch mewn achosion o gamwahaniaethu.
  • Byddaf yn eiriol dros fwy o interniaethau a swyddi cyflogedig i fyfyrwyr ar draws pob campws.
  • Byddaf yn annog mwy o gyfleoedd arweinyddiaeth a grymuso myfyrwyr
  • Byddaf yn eiriol dros lesiant myfyrwyr a gwella’r gwasanaethau/cymorth llesiant presennol a gynigir yn PCyDDS.
  • Hoffwn i Lambed gael pwll nofio, mwy o le yn y gampfa a mwy o feiciau i fyfyrwyr eu defnyddio