Masuma Begum

Yn Sefyll am rôl Llywydd Grŵp

Fy enw yw Masuma Begun, ac ar hyn o bryd rwyf yn fy nhymor olaf o fy astudiaethau lefel 6 mewn BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rwyf wedi ymgymryd â rôl cynrychiolydd dosbarth ac mae gen i faniffesto syml - dod ag Undeb y Myfyrwyr yn ôl i’w bwrpas gwreiddiol. Mae’n amser am newid ac ail-ganolbwyntio ar anghenion myfyrwyr, ond ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun. Rwy’n gofyn am eich cefnogaeth i fy helpu i wireddu’r amcan hwn. Un o fy mhrif amcanion yw gwella’r berthynas rhwng y brifysgol â’i myfyrwyr. Rwyf am weld partneriaeth sy’n gosod gwerth ar bwy ydyn ni ac yn ein cydnabod am bwy ydyn ni; partneriaeth sy’n wirioneddol effeithiol. Fy ngham cyntaf yw codi ymwybyddiaeth ynghylch Undeb y Myfyrwyr a’r gwahanol fudiadau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rwyf yn bwriadu cydweithio gyda chyfadrannau, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r cyfleoedd hyn.