Telerau ac Amodau

Caiff y Wefan hon ei chynnal gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sy'n gweithredu ar draws campysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ein swyddfa gofrestredig yn Abertawe.

Mae UMyDDS wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ei ddefnyddwyr wrth ddefnyddio'r wefan. Byddwn yn rhoi mynediad i chi i'r Wefan yn unol â'r Amodau hyn.

 

Eich Ymrwymiadau

Mae disgwyl i chi:

  • peidio â defnyddio'r Wefan (nac unrhyw ran ohoni) at unrhyw ddiben anghyfreithlon a chytuno i'w defnyddio yn unol â'r holl gyfreithiau perthnasol;
  • cytuno i beidio â llwytho neu drosglwyddo trwy'r Wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro firysau, ceffylau trojan, mwydod neu unrhyw beth arall a gynlluniwyd i ymyrryd, tarfu neu amharu ar weithdrefnau cyfrifiadurol cyffredin;
  • peidio ag uwchlwytho na throsglwyddo drwy'r Wefan unrhyw ddeunydd sy'n ddifenwol, yn dramgwyddus, neu o natur anweddus neu fygythiol, neu a all achosi aflonyddwch, anghyfleustra neu bryder ddiangen;
  • peidio â defnyddio'r Wefan mewn modd a all achosi i'r Wefan gael ei amharu, ei niweidio, ei gwneud yn llai effeithlon neu fel bod effeithiolrwydd neu ymarferoldeb y Wefan yn cael eu niweidio mewn unrhyw fodd;
  • peidio â defnyddio'r Wefan mewn unrhyw ffordd sy'n mynd yn groes i hawliau unrhyw berson, cwmni neu sefydliad (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu hawliau preifatrwydd);
  • peidio â chreu a chyhoeddi dolen hyperdestun at unrhyw ran anawdurdodedig o'r Wefan na cheisio unrhyw fynediad heb ganiatâd i unrhyw ran o'r Wefan; a
  • chytuno, os oes gennych chi unrhyw hawliad neu achos yn erbyn unrhyw Ddefnyddwyr sy'n deillio o ddefnydd y Defnyddiwr hwnnw o'r Wefan, yna byddwch yn gwneud hawliad neu'n dilyn camau o'r fath yn annibynnol a heb atebolrwydd ar ein rhan ni.

 

Indemniad

  • Rydych yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am (gydag indemniad llawn ar ein rhan ni rhag) pob hawliad, atebolrwydd, iawndal, colled, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, a ddioddefwyd gennym ni ac sy'n deillio o unrhyw achos o dorri'r Amodau gennych chi neu unrhyw rwymedigaethau eraill sy'n deillio o'ch defnydd o'r Wefan, neu'r defnydd gan unrhyw berson arall sy'n cyrchu'r wefan gan ddefnyddio'ch cyfrifiadur neu gyfrif mynediad i'r rhyngrwyd

 

Ein hawliau

Rydym yn cadw'r hawl i:

  • addasu neu dynnu'n ôl, dros dro neu yn barhaol, y Wefan (neu unrhyw ran ohoni) gyda rhybudd neu heb rybudd, a'ch bod yn cadarnhau na fyddwn yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw ddiwygiad i'r Wefan neu ei thynnu'n ôl; a / neu
  • newid yr Amodau hyn o bryd i'w gilydd, a thybir bod eich defnydd parhaus o'r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) yn dilyn y cyfryw newid yn arwydd eich bod yn derbyn y fath newid. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'n rheolaidd i benderfynu a yw'r Amodau wedi cael eu newid. Os nad ydych yn cytuno i unrhyw newid yn yr Amodau, yna mae'n rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r Wefan ar unwaith.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i gynnal y Wefan. Mae'r Wefan yn gallu newid o bryd i'w gilydd. Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw iawndal oherwydd na allwch ddefnyddio unrhyw ran o'r Wefan neu oherwydd methiant, ataliad neu dynnu'n ôl yr holl Wefan neu ran o'r Wefan oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth.

 

Cysylltiadau trydydd parti

Mewn ymgais i roi mwy o werth i'n Defnyddwyr, efallai y byddwn yn darparu dolenni at wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol o'r fath, ac nad ydym yn ategu nac gyfrifol, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd na chynnwys (gan gynnwys deunydd camarweiniol neu ddifenwol) y fath wefannau. Mae hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) unrhyw hysbysebion, cynnyrch, deunyddiau neu wasanaethau eraill ar, neu ar gael o wefannau neu adnoddau o'r fath, neu am unrhyw ddifrod, colled neu dramgwyddo a achoswyd neu a honnir iddo gael ei achosi, neu mewn cysylltiad â dibynnu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol o'r fath.

 

Monitro

Mae gennym yr hawl, ond nid yw'n ddyletswydd arnom, i fonitro unrhyw weithgaredd a chynnwys sy'n gysylltiedig â'r Wefan. Mae'n bosib y byddwn yn ymchwilio i unrhyw achos honedig o dorri'r Amodau hyn neu gwynion, a chymryd unrhyw gamau a ystyriwn yn briodol (a all gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, rybuddion, atal, terfynu neu osod amodau ar eich mynediad a / neu gael gwared ar unrhyw ddeunyddiau o'r Wefan).

 

Eiddo deallusol a'r hawl i'w ddefnyddio

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno ein bod ni neu ein trwyddedwyr yn dal ein gafael ym mhob hawlfraint, nod masnach a phob hawl arall sy'n ymwneud ag eiddo deallusol ym mhob deunydd neu gynnwys a ddarperir fel rhan o'r Wefan. Caniateir i chi ddefnyddio'r deunydd hwn dim ond fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym ni.

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod y deunydd a'r cynnwys sydd ar y Wefan ar gael ar gyfer eich defnydd anfasnachol personol yn unig, ac y gallwch lawrlwytho deunydd a chynnwys o'r fath i un gyriant caled yn unig at y diben hwnnw. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o ddeunydd a chynnwys y Wefan. Rydych yn cytuno i beidio â (ac yn cytuno i beidio â chynorthwyo neu hwyluso unrhyw drydydd parti i) gopïo, atgynhyrchu, trosglwyddo, cyhoeddi, arddangos, dosbarthu, manteisio'n fasnachol neu greu gwaith deilliadol o ddeunydd a chynnwys o'r fath.