Hysbysiad Gwefan

Dim ond yn unol â'n Polisi Diogelu Data y bydd unrhyw wybodaeth a roddwch amdanoch eich hun i Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cael ei defnyddio. Rydym hefyd wedi creu Hysbysiad Preifatrwydd cynhwysfawr, sydd ar gael yma, sy'n rhoi manylion yr holl wybodaeth a gasglwn, sut y caiff ei storio a'i defnyddio, yn ogystal â sut y byddwn yn ei gwaredu.  

Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu'r mathau o wybodaeth bersonol a gasglwn, sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol, â phwy yr ydym yn ei rhannu a'ch hawliau parthed yr wybodaeth bersonol a ddarparwch i ni. Sylwer, nid yw hyn yn berthnasol i wefannau neu wasanaethau a gaiff eu cynnal gan drydydd parti.

 

Ein Hegwyddorion

Gellir crynhoi ein polisi mewn un frawddeg: ni fyddwn yn rhannu unrhyw fanylion am ddefnyddwyr unigol (gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost) ag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd.

Yn Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth am ein haelodau a defnyddwyr ein gwefan am y prif resymau canlynol:

  • Darparu a gwasanaethau cymorth i'n haelodau sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Darparu gwefan ryngweithiol, wedi'i phersonoleiddio
  • Darparu cyfleusterau aelodaeth ar gyfer grwpiau gweithgaredd a chlybiau chwaraeon
  • Darparu cyfleusterau archebu ar gyfer digwyddiadau
  • Darparu cyfleusterau pleidleisio i aelodau ar gyfer etholiadau a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr
  • Darparu mecanwaith diogelwch lle gallwn gyfyngu cynnwys i grwpiau penodol o ddefnyddwyr
  • Galluogi prynu a chyflenwi nwyddau drwy ein siop ar-lein
  • Dadansoddi a gwella'r gwasanaethau a gynigiwn
  • Caniatáu i ni anfon cyfathrebiadau marchnata i chi am gynnwys, cynhyrchion, digwyddiadau a hyrwyddiadau gennym ni a thrydydd parti a allai fod o ddiddordeb i chi, os ydych chi'n dewis optio i mewn.

 

Pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu?

Mae gennym gytundeb rhannu data gyda'r Brifysgol sy'n ein galluogi i gasglu gwybodaeth yn awtomatig am fyfyrwyr pan fyddant yn cofrestru yn y Brifysgol. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys enwau, rhywedd, dyddiadau geni, cyfeiriadau e-bost myfyrwyr, manylion cwrs, demograffeg a phreswyl. Defnyddiwn y data hwn at ddibenion darparu ein gwasanaethau i fyfyrwyr yn unig. Mae'n bosib y byddwn yn casglu gwybodaeth ychwanegol gennych wrth gofrestru â rhai o'n gwasanaethau, er enghraifft gwybodaeth am eich perthynas agosaf.

Wrth ymweld â'n gwefan, byddwn yn casglu gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi a ddarperir i ni gan eich porwr gwe yn awtomatig. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys eich cyfeiriad IP (defnyddir hwn i nodi eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd a'ch lleoliad), y dudalen yr ydych yn ymweld â hi, y porwr gwe a'r system weithredu rydych chi'n eu defnyddio, y dyddiad a'r amser y bu i chi gael mynediad i'n gwefan a chyfeiriad gwe'r wefan a'ch cysylltodd â'n gwefan.

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn defnyddio gwasanaethGoogle Analytics, ac amryw o ddarparwyr hysbysebu trydydd parti ar y wefan hon. Bydd y gwasanaethau hyn yn casglu gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi, megis y tudalennau rydych chi'n ymweld â hwy, galluoedd eich dyfais a'r amser rydych chi'n ei dreulio ar y wefan. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan Google Analyticsi'n helpu i gynnal y wefan hon, er mwyn sicrhau bod y wefan yn gweithio'n iawn, ac i'n helpu i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch a defnyddiol.

Ni fyddwn fel arfer yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol sensitif oddi wrthych, ac mewn unrhyw achos, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i wneud hynny.

 

Pwy fydd â mynediad at eich gwybodaeth?

Mae gennych reolaeth dros bwy sy'n gallu cael gafael ar eitemau penodol o wybodaeth. Ni fydd eich gwybodaeth yn weladwy i unrhyw un arall sy'n defnyddio'r wefan hon. Bydd eich gwybodaeth yn weladwy i staff yr Undeb sy'n gyfrifol am weinyddu aelodaeth a'r wefan hon at ddibenion darparu ein gwasanaethau a datrys materion sy'n ymwneud â'ch cyfrif. Os byddwch chi'n ymuno â grŵp gweithgaredd, bydd eich manylion a manylion eich perthynas agosaf ar gael i bwyllgor y grŵp. Gall Googleddefnyddio gwybodaeth am ymwelwyr sy'n cael ei chasglu gan Google Analyticsat ddibenion gwella eu cynhyrchion a'ch darparu â gwasanaethau personol. Gallwch chi optio allan o Google Analyticsyn casglu gwybodaeth amdanoch chi ar y wefan hon a gwefannau eraill drwy ddefnyddio Estyniad Optio-allan Porwr Google Analytics. [https://tools.google.com/dlpage/gaoptout/]

Mae hefyd yn bosib y byddwn ni'n datgelu gwybodaeth bersonol amdanoch chi er mwyn cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol a phan fydd asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu gyrff llywodraethol yn gofyn i ni wneud hynny.

 

Beth arall y dylech chi ei wybod am breifatrwydd

Cofiwch gau eich porwr pan fyddwch wedi gorffen eich sesiwn defnyddiwr. Mae hyn i sicrhau na all eraill gael mynediad i'ch gwybodaeth bersonol a'ch gohebiaeth os ydych chi'n rhannu cyfrifiadur â rhywun arall neu'n defnyddio cyfrifiadur mewn man cyhoeddus fel Llyfrgell neu Gaffi Rhyngrwyd.

Chi fel unigolyn sy'n gyfrifol am ddiogelwch, a mynediad at, eich cyfrifiadur eich hun. Cofiwch, pryd bynnag y byddwch chi'n datgelu gwybodaeth bersonol dros y Rhyngrwyd yn wirfoddol, y gall pobl eraill gasglu a defnyddio'r wybodaeth hon.

Yn y pen draw, chi sy'n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd eich enwau defnyddwyr, cyfrineiriau ac unrhyw wybodaeth am eich cyfrif. Byddwch yn ofalus a chyfrifol pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r Rhyngrwyd.

Mae'n bosib y bydd ein tudalennau'n cynnwys dolenni at wefannau eraill, a dylech fod yn ymwybodol nad ydym yn gyfrifol am yr arferion preifatrwydd ar wefannau eraill.

 

Newidiadau i'n Polisi Diogelu Data a'n Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn cadw'r hawl i newid ein Polisi Diogelu Data a'n Hysbysiad Preifatrwydd a bydd pob newid yn cael ei wneud yn hysbys yma. Lle mae'r newidiadau'n sylweddol, efallai y byddwn hefyd yn dewis e-bostio ein holl ddefnyddwyr cofrestredig â'r wybodaeth newydd.