Mae yna lwyth o ddigwyddiadau am ddim, yn arbennig ar gyfer myfyrwyr PCyDDS, a byddwn yn cynnal Ail Ffeiriau’r Glas ar draws ein holl gampysau yng Nghymru, fel y gallwch ddarganfod beth sy’n digwydd ar y campws ac yn yr ardal leol. Dewch yn llu, dewch â'ch cyd-ddisgyblion, a dewch â'ch cyd-letywyr - gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar Ail Gyfnod y Glas cyn i chi fynd ati o ddifrif gyda’ch astudiaethau.
Cyfle i ddianc o'r ystafell ddosbarth a mynd ati i fwynhau trwy gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau am ddim! Mae gan bob campws ei raglen o ddigwyddiadau ei hun - dyma'r uchafbwyntiau - Brwydr y Bandiau, Bingo Lingo, Sesiynau Blasu Clybiau a Chymdeithasau, Teithiau Undydd, Nosweithiau Ffilm, Lazer Tag, a mwy.
Dewch i'n Hail Ffeiriau’r Glas a darganfod beth sy'n digwydd ar eich campws ac yn yr ardal leol; gwnewch y gorau o'ch amser fel myfyriwr trwy atgoffa eich hun o’r gwasanaethau mae’r Undeb a'r Brifysgol yn eu cynnig.
Mae ein holl ddigwyddiadau am ddim, ond mae'r lleoedd yn gyfyngedig - gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu tocyn i sicrhau eich lle!