Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o'ch helpu chi i wneud gwahaniaeth mewn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, yn ogystal ag ennill sgiliau a phrofiadau newydd.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch wirfoddoli; boed drwy brosiectau dan arweiniad myfyrwyr neu gyfleoedd drwy asiantaethau gwirfoddoli, sy'n gallu amrywio o brosiectau cymunedol i raglenni sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Mae gwirfoddoli'n hynod o hyblyg a gall roi cryn foddhad i chi; hefyd cewch reoli pryd a ble byddwch yn ei wneud, a faint o'ch amser allwch chi ymrwymo. 

Mae gwirfoddoli'n cynyddu hunan-hyder. Rydych yn gwneud rhywbeth er lles eraill a'r gymuned, sy'n rhoi ymdeimlad naturiol o fod wedi cyflawni rhywbeth. Gall eich rôl fel gwirfoddolwr hefyd roi teimlad o falchder a hunaniaeth i chi. Mae gwirfoddoli'n dysgu sgiliau newydd i chi, megis sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau; mae'r rhain yn bethau y gellir eu trosglwyddo i'r gweithle a byddant yn gwneud i chi sefyll allan o'r dorf pan ddaw yn amser i chi ganfod swydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd ac ehangu eich gorwelion cymdeithasol.