
Mynnwch gerdyn ISIC i wneud bywyd myfyrwyr yn haws, yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy pleserus.
Gall bywyd myfyrwyr fod yn ddrud. Dyna pam rydyn ni'n falch o weithio gyda'r Cerdyn Adnabyddiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (ISIC) er mwyn i chi gael gafael ar ostyngiadau ac i gadarnhau eich statws myfyriwr ledled y byd.
Y cerdyn ISIC yw'r unig gerdyn adnabyddiaeth myfyrwyr a dderbynnir yn rhyngwladol. Fel myfyriwr yn PCyDDS, gallwch chi brynu cerdyn ISIC i gadarnhau eich statws myfyriwr a chael mynediad at ostyngiadau mewn dros gant o wledydd, o deithio i dechnoleg, llety a bwyd, i ddiwylliant a siopa.
Gallwch ddarganfod a yw'r cerdyn ISIC yn iawn i chi trwy fwrw golwg ar y gostyngiadau sydd ar gael ar dudalen we gostyngiadau ISIC.
Rydym yn derbyn comisiwn am bob cerdyn ISIC sy’n cael ei brynu gan ddefnyddio ein dolen ymaelodaeth, sy'n cael ei ailfuddsoddi yn ein gwaith i gefnogi ein prosiectau a'n gwasanaethau.
Mae'r cerdyn ISIC yn cael ei redeg gan y Gymdeithas Cardiau Adnabyddiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol, sefydliad nid-er-elw a grëwyd gan fyfyrwyr ym 1953 â'r nod o wneud bywyd myfyrwyr yn haws, yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy pleserus.
Mae wedi'i gymeradwyo gan UNESCO ers 1968 a gan ystod eang o lywodraethau cenedlaethol, gweinidogaethau addysg a thwristiaeth, mudiadau myfyrwyr a phrifysgolion ledled y byd; ewch i wefan ISIC i ddysgu mwy.