Traciwr
Maniffesto

Croeso i’r Traciwr Maniffesto – dyma ble gallwch chi weld beth mae eich llywyddion Undeb etholedig yn gweithio arno.

Mae pob pwynt wedi’i rannu’n dair adran - Nodau, Amcanion a Diweddariadau. Mae’r Nodau ac amcanion yn dweud wrthych chi beth mae eich Llywyddion yn gobeithio ei gyflawni, a bydd y Diweddariadau’n rhoi syniad i chi o’r hyn sydd wedi’i wneud hyd yma.

Ydych chi eisiau siarad gydag un o’r Llywyddion? Gallwch ddod o hyd i’w manylion cysylltu ar dudalen we’r Llywyddion. 

Amcanion ar y Cyd

Iechyd Meddwl a Llesiant

Amcan

  1. Meithrin amgylchedd lle mae pob myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus i gael mynediad at y gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant a ddarperir ar eu cyfer.
  2. Darparu cymorth llesiant mwy amrywiol i fyfyrwyr, gwella ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o'r cymorth llesiant ac iechyd meddwl sydd ar gael ar hyn o bryd.

Nodau

  1. Nodi'r rhwystrau a'r pryderon y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant a gwneud argymhellion i'r Brifysgol ynghylch sut y gallant wella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.
    Dan arweiniad Taya Gibbons
  2. Nodi unrhyw anghysondebau yn y gwasanaethau a ddarperir ar y campysau yng Nghymru o gymharu â’r hyn sydd ar gael yng Nghaerdydd a’r Athrofeydd Dysgu Canol y Ddinas. Dan arweiniad Taya Gibbons
  3. Gweithio gyda myfyrwyr i ddeall canfyddiadau myfyrwyr o’r cymorth llesiant a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir. Darparu adroddiad gydag argymhellion i'r Brifysgol ar hyn ar ddiwedd y flwyddyn.Dan arweiniad Natalie Beard
  4. Gweithio gyda'r tîm llesiant a threialu mentrau llesiant amgen ac adrodd yn ôl i'r Brifysgol ar lwyddiant y rhain.Dan arweiniad Natalie Beard
  5. Gweithio gyda'r Brifysgol i gynhyrchu mapiau sy’n dangos llwybrau at lesiant ar gyfer pob campws (a’r rhai sy’n dysgu o bell).Dan arweiniad Natalie Beard
  6. Ymchwilio gyda'r Brifysgol i ymarferoldeb darparu mannau diogel neu dawel ar bob campws.Dan arweiniad Lowri Wilson
  7. Lobïo’r Brifysgol i wella’r ardal ger y llyn bach ar y campws a datblygu ardaloedd synhwyraidd ar hyd y daith lesiant a rhannau eraill o’r campws.Dan arweiniad Lowri Wilson

Updates

Llety

Amcan

  1. Gwella lefel boddhad myfyrwyr ynghylch Llety'r Brifysgol gan sicrhau bod cyfathrebu clir a diogelwch myfyrwyr wrth galon y gwasanaeth a ddarperir.

Nodau

  1. Adolygu'r system a ddefnyddir gan fyfyrwyr i gyflwyno a chofnodi problemau gyda'u llety a chyflwyno argymhellion i'r Brifysgol ar gyfer gwelliannau. Dan arweiniad Taya Gibbons
  2. Adolygu'r system y mae'r tîm llety yn ei defnyddio ar hyn o bryd i gyfathrebu'n uniongyrchol â myfyrwyr a rhoi argymhellion i'r Brifysgol ar gyfer gwelliannau.  Dan arweiniad Taya Gibbons
  3. Gweithio gyda’r Brifysgol i greu/cychwyn y gwaith o sefydlu Siarter Llety’r Brifysgol 2024 – sy’n amlinellu’r disgwyliadau a osodir gan y Brifysgol ar gyfathrebu a safonau gan y tîm llety. Dan arweiniad Taya Gibbons
  4. Gweithio gyda'r Brifysgol i sicrhau bod gan fyfyrwyr Abertawe le diogel i fyw, ynghyd â chontractau gyda llety partner sy'n addas i'w hanghenion Dan arweiniad Natalie Beard

Diweddariadau

Amcanion Taya

Gweithgareddau Hamdden a Chwaraeon

Amcan

  1. Gwella darpariaethau hamdden a chwaraeon presennol y Brifysgol er mwyn gwella/ategu bywyd Prifysgol i fyfyrwyr.

Nodau

  1. Adolygu’r gweithgareddau hamdden a gynigir ar hyn o bryd ar draws y Brifysgol – gan ganolbwyntio’n benodol ar y campysau hynny sydd heb unrhyw ddarpariaethau chwaraeon trwy’r Brifysgol (Abertawe, Caerdydd, Llundain, Birmingham.)
  2. Creu gwahanol strategaethau chwaraeon i'w gweithredu ar draws y gwahanol gampysau.

Diweddariadau

Costau Byw

Amcan

  1. Parhau i fod yn eiriol dros Fyfyrwyr mewn perthynas â'r Argyfwng Costau Byw.

Nodau

  1. Sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn yr hyn sydd ar gael o’r banc bwyd i fyfyrwyr o wahanol ddiwylliannau
  2. Ystyried opsiynau arlwyo ar gyfer campysau sydd heb gyfleusterau arlwyo.
  3. Sefydlu tasglu 'costau byw' y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i fonitro mentrau sy’n bodoli eisoes a mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan fyfyrwyr PCyDDS.
  4. Adolygu a gwneud argymhellion sy'n cynyddu ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth o'r mentrau presennol.
  5. Gweithio gyda’r Brifysgol i godi ymwybyddiaeth o’r bwrsariaethau a’r ysgoloriaethau sydd ar gael a lobïo am newidiadau i’r cynnig presennol o ran ysgoloriaethau a bwrsariaethau.

Diweddariadau

Cynnig Cefnogaeth i'r Gymuned LHDTC+ ar y Campws

Amcan

  1. Meithrin diwylliant o ddealltwriaeth a pharodrwydd i dderbyn ar gyfer myfyrwyr sy’n hunan-ddiffinio fel LHDTC+ yn PCyDDS.

Nodau

  1. Sicrhau bod gan unigolion gyfle i optio i mewn o ran rhagenwau ar gardiau Adnabyddiaeth Myfyrwyr a dileu'r tâl am newid enw.
  2. Bod â rhagenwau y gellir optio i mewn ar eu cyfer wedi'u cynnwys ar broffiliau digidol.
  3. Archwilio opsiynau i gyflwyno modiwl addysgol ar faterion LHDTC+ a’i fod ar gael i fyfyrwyr

Diweddariadau

Amcanion Lowri

Cynnig Cefnogaeth i Fyfyrwyr sy'n Rhieni a Gofalwyr

Amcan

  1. Adolygu'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n rhieni a gofalwyr a gwneud argymhellion i'r Brifysgol.

Nodau

  1. Ymchwilio a chasglu ynghyd yr holl wybodaeth am y cymorth y mae PCyDDS yn ei gynnig i Fyfyrwyr sy’n Rhieni a Gofalwyr er mwyn cynhyrchu adnodd.
  2. Archwilio opsiynau i ddatblygu ymdeimlad o gefnogaeth gymunedol ac ymysg cymheiriaid i Fyfyrwyr sy’n Rhieni a Gofalwyr.
  3. Ymchwilio i Brifysgolion ac Undebau Myfyrwyr eraill i ddod o hyd i enghreifftiau o arfer gorau a'u cyflwyno i'r brifysgol fel opsiynau.
  4. Lobïo'r Brifysgol am gyfleusterau gwell wedi'u targedu at Fyfyrwyr sy’n Rhieni a Gofalwyr gan sicrhau mynediad cyfartal, a chynnal ymgyrch gyfathrebu er mwyn dwyn sylw at y cyfleusterau sy’n bodoli eisoes.
  5. Gweithio gyda’r adran Cyfleusterau i ddatblygu ardaloedd ar y campws gyda chynlluniau a gweithgareddau wedi’u harwain gan fyfyrwyr sy'n gynhwysol o fyfyrwyr sy'n rhieni ac sy'n cyfrannu at lesiant myfyrwyr ac agenda cynaliadwyedd y Brifysgol a'r Undeb.

Diweddariadau

Cŵn Therapi ar y Campws

Amcan

  1. Gwella mynediad myfyrwyr at gŵn therapi.

Nodau

  1. Gweithio gyda'r Brifysgol i dreialu prosesau amgen i ganiatáu i fyfyrwyr gael mynediad at gŵn therapi.
  2. Ymchwilio i effeithiau therapi anifeiliaid anwes ymhlith myfyrwyr. Yna lobïo'r Brifysgol i gynnwys cyfres reolaidd o sesiynau gyda chŵn yn ystod blynyddoedd academaidd yn y dyfodol, gydag adolygiad parhaus.

Diweddariadau

Cymorth ar gyfer Myfyrwyr Anabl

Amcan

  1. Adolygu'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anableddau a gwneud argymhellion i'r Brifysgol.

Nodau

  1. Gweithio gyda'r Brifysgol i nodi'r rhesymau pam bod y gyfradd o ran canfod mor isel, y rhwystrau a'r pryderon y mae myfyrwyr yn eu hwynebu o ran anabledd a chael mynediad at wasanaethau; hefyd gwneud argymhellion i'r Brifysgol ar sut y gallant wella'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt.
  2. Cynnal adolygiad o'r weithdrefn ar gyfer 'Datganiad o Fesurau Cydadferol' a chyflwyno argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn. Bod yn gynhwysol o’r broses sgrinio i ganlyniadau, y gefnogaeth a gynigir yn ystod y flwyddyn a phroses adolygu
  3. Lobïo'r Brifysgol i dreialu dulliau amgen er mwyn gwella hygyrchedd cynnwys modiwlau, adolygu'r canfyddiadau a thystiolaeth arall ac yna cyflwyno papur arfer gorau erbyn diwedd y flwyddyn.
  4. Lobïo’r Brifysgol i wella’r seilwaith ffisegol ar y campws i sicrhau bod pob campws yn gwbl hygyrch (e.e. lifftiau cadair, drysau awtomatig a rampiau.)

Diweddariadau

Amcanion Natalie

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd Myfyrwyr

Amcan

  1. Creu cyfleoedd mwy hygyrch ar gyfer canfod swyddi, gwirfoddoli a datblygu sgiliau ac archwilio ffyrdd o wella ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r cyfleoedd presennol.

Nodau

  1. Gweithio gyda'r Brifysgol i amrywio'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr o ran cyfleoedd gwirfoddoli a’u rhagolygon ar gyfer cyflogaeth.
  2. Cynnal ymchwil i ganfyddiadau a dealltwriaeth myfyrwyr PCyDDS o bwysigrwydd eu cyflogadwyedd a’u parodrwydd ar gyfer gyrfa. Adeiladu ymgyrch ar ganfyddiadau mewn partneriaeth â'r tîm Gyrfaoedd a'r gweithgor Cyflogadwyedd i fynd i'r afael â phryderon.

Diweddariadau

Cymuned ar Gampws Abertawe

Amcan

  1. Adeiladu cymuned gryfach ar Gampws Abertawe trwy ddigwyddiadau, cymdeithasau a thrwy gysylltu myfyrwyr â'i gilydd

Nodau

  1. Cefnogi a hyrwyddo’r broses o greu a chynnal digwyddiadau, clybiau a chymdeithasau ar y campws.
  2. Creu Cynllun Cymunedol Campws Abertawe i'w gyflwyno cyn trafodaethau grant bloc.

Diweddariadau