Bob chwe blynedd mae'n ofynnol i'r Brifysgol ymgymryd ag adolygiad sefydliadol - yr Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) - a gynhelir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA). Mae QAA yn sefydliad annibynnol sy'n cynnal asesiadau o’r ddarpariaeth addysg uwch yn y DU. Mae adolygiadau o'r fath yn ffurfio sail i benderfyniadau a gwaith cyllidwyr a rheoleiddwyr AU y DU, fel y Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru (CCAUC). Mae'r QER yn benodol i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. Er bod rhywfaint o addysgu'n cael ei ddarparu mewn safleoedd yn Lloegr, mae PCyDDS wedi'i gwreiddio yng Nghymru ac mae'r holl gyrsiau addysg uwch wedi'u cynnwys yn yr adolygiad hwn.
Mae’r Adolygiad Gwella Ansawdd yn canolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth academaidd yn PCyDDS, gan gynnwys adnoddau llyfrgell ac adnoddau dysgu, ond nid yw’n ymwneud ag agweddau eraill ar fywyd myfyrwyr fel llety. Er mwyn darparu tîm adolygu QAA â dealltwriaeth o brofiad academaidd myfyrwyr yn PCyDDS ar gyfer adolygiad 2022, lluniodd Undeb y Myfyrwyr adroddiad, a elwir yn Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr, sy’n cynnwys dadansoddiad o werth chwe blynedd o ddata adborth myfyrwyr.
Yn benodol, rydym yn argymell eich bod yn darllen penodau 1 a 6. Mae rhagarweiniad i’r adrannau hyn i'w gweld yn y fideos isod.
Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr
Gallwch ddarganfod mwy am gyd-destun a chefndir y cyflwyniad hwn, ac ynglŷn â gwella ansawdd academaidd yn PCyDDS, ar dudalennau 5-30 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Darllenwch fwy am brofiadau myfyrwyr o asesu ac adborth ar dudalen 31 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Dysgwch fwy am sut mae myfyrwyr yn chwarae rhan mewn sicrhau ansawdd yn PCyDDS, ar dudalen 39 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Gallwch weld mwy am brofiadau myfyrwyr o apeliadau a chwynion ar dudalen 47 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Mae ein canfyddiadau ynghylch adnoddau dysgu i’w gweld ar dudalen 50 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Darllenwch fwy am ein dadansoddiad o sut mae PCyDDS yn galluogi cyrhaeddiad academaidd ar dudalen 54 o Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.
Gallwch ddarllen mwy o’n hymchwil i brofiadau myfyrwyr yn PCyDDS yn ein Hadroddiadau ar Ansawdd Academaidd:
Adroddiad ar Ansawdd Academaidd 1 (2016) Costau Ariannol Astudio
Adroddiad ar Ansawdd Academaidd 1 (2016) Costau Ariannol Astudio
Adroddiad ar Ansawdd Academaidd 3 (2019) Iechyd Meddwl Myfyrwyr
Adroddiad ar Ansawdd Academaidd 4 (2020) Cydraddoldeb o ran Profiad