Gwirfoddolwyr etholedig yw swyddogion rhan-amser, sy'n ymgyrchu gyda myfyrwyr ac yn eu cynrychioli wrth iddynt astudio. Mae cyfrifoldebau penodol yn perthyn i bob rôl, ac mae’r holl swyddogion rhan-amser yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r grwpiau y maent yn eu cynrychioli, yn ogystal â chynnal ymgyrchoedd, llunio polisïau’r undeb a dwyn y swyddogion llawn-amser i gyfrif. Mae'r holl swyddogion rhan-amser yn eistedd ar eu cynghorau campws.
Mae'r rolau hyn yn cael eu hethol yn ein Etholiadau’r Gwanwyn, ac unrhyw swyddi gwag yn ystod ein Is-etholiadau yn yr Hydref. Edrychwch ar y rolau isod i gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n dal y swydd ar hyn o bryd a beth yw diben y rolau. Cysylltwch â ni yn studentvoice@uwtsd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Croenddu, hyrwyddo materion myfyrwyr Croenddu a chynnig cymorth i fyfyrwyr Croenddu.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr anabl, hyrwyddo materion perthnasol a chynnig cymorth i fyfyrwyr anabl.
This role exists to extend and defend the rights of Non-binary and Trans students, promoting gender identitiy issues and support for Non-binary, Trans, and other gendered students.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr rhyngwladol, gan geisio gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr hŷn, gan geisio gwella profiad myfyrwyr hŷn a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig, gan geisio gwella'r profiad ôl-raddedig ac adeiladu rhwydwaith ôl-raddedig gweithgar.
This role exists to support and represent union-affiliated societies, assisting them in working towards club accreditation, helping them to promote their activities and run successfully and sustainably.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynorthwyo a chynrychioli clybiau chwaraeon sy'n gysylltiedig â’r undeb, gan roi cefnogaeth iddyn nhw weithio tuag at achrediad i’w clwb, a’u helpu i hyrwyddo eu gweithgareddau a'u cynnal yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys hyrwyddo digwyddiadau ac arolygon, Undebau Dros-dro a Diwrnodau Agored y Brifysgol.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr, gan geisio gwella eu profiad fel myfyrwyr ac adeiladu rhwydwaith gweithredol ar gyfer myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr.
Mae'r rôl hon yn bodoli i hybu cynaladwyedd, ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgareddau cynaliadwy ac ymgyrchu dros Brifysgol a chymuned ehangach fwy cynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn bodoli i annog a hyrwyddo pob agwedd o wirfoddoli. Bydd y swyddog yn helpu i drefnu mentrau gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer elusennau, gan weithio'n glòs iawn gyda chlybiau a chymdeithasau i annog gweithgarwch dan arweiniad myfyrwyr.
Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo pob agwedd ar iechyd a llesiant myfyrwyr, yn ogystal â gwella profiad myfyrwyr yn PCyDDS.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hyrwyddo'r defnydd cynyddol o'r Gymraeg; hefyd codi materion a rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau menywod, hyrwyddo materion menywod a chynnig cymorth i fyfyrwragedd.