Welcome 2022 stylised as a sticker

Cyfarchion, fyfyrwyr. Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, ac rydym yn dod mewn heddwch. Paratowch i gychwyn ar Groeso 2023/24  gan ddechrau eich profiad myfyriwr gydag wythnos yn orlawn o ddigwyddiadau.

Croeso i PCyDDS  👽

Helo, ni yw eich Undeb Myfyrwyr ac rydyn ni wrth ein bodd cael cwrdd â chi. Rydych chi ar fin cychwyn ar eich antur fawr nesaf - prifysgol. Rydyn ni'n dîm o wynebau cyfeillgar, yma i'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch amser fel myfyriwr.

Y Cyfnod Croeso ar gyfer y Glasfyfyrwyr. I ddathlu cyrraedd PCyDDS, rydym yn cynnal digwyddiadau ar draws ein holl gampysau. Mae thema eleni wedi'i hysbrydoli gan y gofod ac estroniaid o blaned arall - felly gwnewch y gorau o’r rhyfeddod 🛸

Meddwl nad yw Croeso ar eich cyfer chi? Meddyliwch eto! Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb - o nosweithiau allan mawr i ddigwyddiadau bach mwy hamddenol, ac mae'r rhan fwyaf o'r pethau hyn am ddim hefyd. Gallwch weld beth sydd gan eich campws i’w gynnig isod: Archebwch eich lle, a dechreuwch wneud y gorau o gychwyn yn y brifysgol.

Cyfarchion, fyfyrwyr.

Helo, Taya, Lowri, a Nat sydd yma - a gyda'n gilydd, ni yw eich Llywyddion ar gyfer 2023/24. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd a gweithio gyda chi i wneud y profiad o fod yn fyfyriwr yn PCyDDS y gorau y gall fod. Ni allwn aros am y Cyfnod Croeso - mae'n un o'n hoff adegau o'r flwyddyn. Edrychwch ar y rhestr ddigwyddiadau, a byddwn yn eich gweld yn nes ymlaen ym mis Medi.

 - Taya, Lowri, a Natalie (eich llywyddion ar gyfer 2023/24).

Taya piloting a UFOLowri piloting a UFO Natalie piloting a UFO

Tabs

Rhestr Ddigwyddiadau Croeso

Dyma eich Croeso swyddogol. Paratowch i ddechrau gydag wythnos yn orlawn o ddigwyddiadau a chyffro arallfydol. Mae gan bob campws ei restr ei hun o ddigwyddiadau - gallwch ddod o hyd i’ch rhestr isod.

Ffair Groeso 

Mae'r Ffair Groeso yn uchafbwynt cyfnod y glas. P'un a ydych yn fyfyriwr ar eich blwyddyn gyntaf neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd, dewch i wybod beth sy'n digwydd o amgylch y campws, ymunwch â chlybiau a chymdeithasau, cewch gwrdd â busnesau lleol, mwynhewch y gweithgareddau a'r gemau, a chasglwch yr holl nwyddau am ddim.

Mae gan Gaerfyrddin, Llambed, Abertawe, a Chaerdydd eu Ffair Groeso eu hunain, felly cofiwch osod nodyn atgoffa nawr! - dyma un digwyddiad na ddylid ei golli.

Cwestiynau Cyffredin

P'un ai dyma'ch tro cyntaf neu'ch tro olaf, efallai y bydd gennych gwestiynau am y Cyfnod Croeso. Rydym wedi llunio atebion i gwestiynau cyffredin. Peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i'ch ateb - gyrrwch e-bost atom yn union@uwtsd.ac.uk neu anfonwch DM ar Instagram, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi yn ôl.

Sut ydw i’n gallu mynychu digwyddiad?

Mae ein holl ddigwyddiadau am ddim eleni. Mae angen i chi archebu tocyn ar gyfer rhai ohonynt; ewch i dudalen we unigol y digwyddiad i weld a oes angen i chi archebu tocyn.

Faint mae digwyddiadau yn ei gostio?

Mae ein holl ddigwyddiadau am ddim eleni.

Rwy'n fyfyriwr sy'n parhau, ydw i’n gallu dod?

Gallwch! Mae digwyddiadau croeso ar gyfer holl fyfyrwyr PCyDDS – p’un a ydych yn eich blwyddyn gyntaf neu’ch blwyddyn olaf.

Oes angen i mi gofrestru ar gyfer digwyddiad gydag e-bost myfyriwr?

Nac oes, does dim angen i chi wneud hynny. Gallwch ddefnyddio unrhyw e-bost, ond efallai y byddwn yn gofyn i weld prawf o’ch statws fel myfyriwr - gall hwn fod eich cerdyn myfyriwr.

Rwy’n methu â chofrestru ar gyfer digwyddiad - nid yw'r wefan yn gweithio

Peidiwch â phoeni, anfonwch e-bost atom union@uwtsd.ac.uk a byddwn yn ei ddatrys.

I have accessibility requirements - can I still come?

Rydym yn ceisio gwneud pob un ein digwyddiadau mor gynhwysol â phosibl. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddigwyddiad a'ch anghenion, anfonwch e-bost at union@uwtsd.ac.uk.

Rydych chi'n un ohonom ni  🛸

Fel myfyriwr yn PCyDDS, rydych yn un o'n haelodau yn awtomatig. Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, mae aelodaeth am ddim ac yn awtomatig ar ôl i chi ymrestru - does dim rhaid i chi boeni am unrhyw waith papur ychwanegol.

Fel aelod, rydych chi'n gallu mwynhau llawer o fuddion, dyma rai o'r uchafbwyntiau:

  • Gallwch gymryd rhan yn ein digwyddiadau Croeso am ddim
  • Gallwch ymuno â'n clybiau a chymdeithasau chwaraeon swyddogol
  • Gallwch enwebu a phleidleisio yn ein hetholiadau myfyrwyr
  • Cewch gymryd rhan yn ein digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn 
  • Dewch i'n bariau myfyrwyr
  • Dewch atom am gyngor os oes ei angen arnoch

 

Ni yw'r Croeso swyddogol

Fel undeb myfyrwyr PCyDDS, ni sy’n cynnal yr Wythnos Groeso swyddogol - ond pam fod hyn o bwys? Rydym yn rhoi eich profiad myfyriwr yn gyntaf, tra bod eraill yn rhoi elw yn gyntaf. Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael y croeso gorau posibl i fywyd myfyriwr; rydym wedi cymharu ein digwyddiadau swyddogol yn erbyn y rhai answyddogol isod.

Ein Digwyddiadau
Swyddogol 👽

  • Mae ein holl ddigwyddiadau AM DDIM
  • Cyfle i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr
  • Ewch i'r Ffair Groeso swyddogol
  • Dewch i adnabod eich campws
  • Mae diogelwch myfyrwyr yn flaenoriaeth

Digwyddiadau
Answyddogol 🤮

  • Yn aml yn ddrud ac wedi’u brolio’n ormodol
  • Gwerth gwael am arian fel arfer
  • Mae'n debyg y byddwch chi'n cwrdd â llai o fyfyrwyr newydd
  • Fel arfer yn agored i rywun-rywun
  • Mae'r elw yn fwyaf tebygol o fynd i'r busnes

Beth i'w ddisgwyl yn y Cyfnod Croeso

Profiadau bythgofiadwy, dawnsio tan yr oriau mân, mwynhau cerddoriaeth, chwerthin cymaint nes bod eich stumog yn brifo, gwneud ffrindiau oes - mae'r cyfan yn dechrau nawr. Maen nhw'n dweud bod llun yn werth mil o eiriau, felly yn hytrach na mynd ymlaen ac ymlaen, edrychwch ar ein halbwm lluniau Croeso i weld beth rydym wedi'i wneud o'r blaen.

Rydyn ni’n methu aros i gwrdd â chi

Mae'n rhaid mai dyma ein hoff adeg o'r flwyddyn - yr holl egni a chyffro, cwrdd â'r wynebau newydd a dal i fyny â'r rhai sy'n dychwelyd - ni allwn aros am y Cyfnod Croeso.

Tan hynny, dilynwch ni ar Instagram a TikTok, ac mae croeso i chi anfon sylw neu neges atom.

Illustration of UFO with Welcome to UWTSD sign