Intern Graddedig: Ymchwil a Mewnwelediadau
Gwybodaeth Allweddol
- Cyflog: £22,222
- Cytundeb: Tymor gosod tan ddydd Gwener 26ain Mehefin 2026
- Oriau: Llawn-amser, Tymor Sefydlog
- Lleoliad: Caerfyrddin neu Abertawe gyda'r gofyniad i deithio i bob safle arall yn PCyDDS
- Byddwch yn atebol i: Bennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
- 45 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith (28 diwrnod o wyliau blynyddol, diwrnodau cau, gwyliau banc, a phythefnos i ffwrdd ym mis Rhagfyr)
- Cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol, gyda chymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth am ddim.
- Rheolaeth llinell gefnogol ac amgylchedd gwaith hwyliog.
- Mynediad i Gynllun Cymorth y Gweithwyr, er mwyn cynorthwyo â'ch llesiant.
Prif Gyfrifoldebau
Dadansoddi data a gasglwyd gan undeb y myfyrwyr i gefnogi buddiannau academaidd, ymgyrchu, polisi a democratiaeth
- Cynhyrchu adroddiadau a dadansoddiadau thematig y gall y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr eu defnyddio i wella profiad y myfyriwr heb ddarparu eich sylwebaeth neu fewnwelediad eich hun (gan adlewyrchu’r data yn hytrach na barn bersonol am brofiad y myfyriwr yn PCyDDS)
- Creu’r Adroddiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer undeb y myfyrwyr: i’w gwblhau erbyn dechrau Mai 2026
- Darparu sesiynau briffio i staff undeb y myfyrwyr a swyddogion sabothol ar unrhyw ddata a gesglir ac a ddadansoddwyd
Datblygu prosesau casglu data cadarn
- Gweithredu arfer gorau ar gyfer ymchwil a gwybodaeth o fewn yr adran
- Darparu cyngor a chefnogaeth cyn ac yn ystod casglu data ar gyfer undeb y myfyrwyr yn ogystal â Chynrychiolwyr Llais y Myfyriwr a Chynrychiolwyr Cwrs
- Sicrhau bod caniatâd gwybodus yn cael ei weithredu’n gywir (bod cyfranogwyr yn gwbl ymwybodol bod eu sylwadau’n cael eu defnyddio i wella profiad y myfyriwr)
Dyletswyddau Cyffredinol
- Diwallu holl gyfrifoldebau perthnasol iechyd a diogelwch.
- Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol Undeb y Myfyrwyr.
- Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol PCyDDS.
- Bod yn barod i addasu i unrhyw newidiadau, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd a pherthnasol trwy gymryd cyfrifoldeb priodol dros eich datblygiad proffesiynol eich hun.
- Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr mewn rhwydweithiau proffesiynol, digwyddiadau a chynadleddau perthnasol.
- Cefnogi a hyrwyddo gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr wrth gyflawni eich dyletswyddau, gan ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb, cynaladwyedd a democratiaeth.