Cydlynydd Llais y Myfyrwyr: Democratiaeth ac Ymgyrchoedd
Gwybodaeth Allweddol
- Cyflog: £24,338
- Cytundeb: Parhaol
- Oriau Gwaith: Llawn-amser
- Lleoliad: Swydd wedi'i lleoli yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd angen presenoldeb cryf ar Gampws Caerfyrddin a/neu Abertawe, felly disgwylir teithio yno o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. Disgwylir hefyd i ddeiliad y swydd weithio ar draws holl safleoedd PCyDDS gyda theithio lled-reolaidd i bob un ohonynt i gefnogi'r tîm Llais ehangach.
- Yn gyfrifol am: Swyddogion Rhan-amser ac ar adegau staff achlysurol sy’n fyfyrwyr
- Byddwch yn atebol i: Rheolwr Llais y Myfyrwyr
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
- 45 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith (28 diwrnod o wyliau blynyddol, diwrnodau cau, gwyliau banc, a phythefnos i ffwrdd ym mis Rhagfyr)
- Cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol, gyda chymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth am ddim
- Rheolaeth llinell gefnogol ac amgylchedd gwaith hwyliog
- Mynediad i Gynllun Cymorth y Gweithwyr, er mwyn cynorthwyo â'ch llesiant
Diben Cydlynydd Llais y Myfyrwyr: Democratiaeth ac Ymgyrchoedd
- Cydlynu, datblygu a gweinyddu prosesau Democrataidd Undeb y Myfyrwyr.
- Gweithio'n agos gyda swyddogion etholedig, myfyrwyr, tîm ehangach Undeb y Myfyrwyr, a staff y Brifysgol i gynorthwyo a datblygu swyddogaethau democrataidd Undeb y Myfyrwyr.
- Rheoli a gweinyddu ymgyrchoedd myfyrwyr.
- Cynnig cefnog
Dyletswyddau Cydlynydd Llais y Myfyrwyr Democratiaeth ac Ymgyrchoedd
Cydlynu, datblygu a gweinyddu prosesau Democrataidd Undeb y Myfyrwyr
- Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol ac ysgrifenyddol posibl ar gyfer pob cyfarfod democrataidd (ar hyn o bryd: cynghorau campws, cyngor yr undeb, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) gan gynnwys; archebu ystafelloedd, trefnu galwadau Teams, cymryd cofnodion, cynorthwyo â chreu'r agenda, cyfieithu adnoddau, a dilyn camau gweithredu
- Cynnal Calendr Democratiaeth ac arwain ar brosiectau arloesi democratiaeth
- Cynnal arolygon mewnwelediad a/neu sesiynau dadansoddi ar ôl ymgyrchoedd a fforymau
- Gweithredu fel rheolwr prosiect ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; sicrhau cydymffurfiaeth â'r is-ddeddfau, y memorandwm a'r erthyglau, a bod y cyfarfod yn llwyddiannus
- Gweithredu fel cymorth gweinyddol i dîm y Swyddog Canlyniadau ar gyfer yr etholiadau; o drefnu galwadau rhwng y swyddogion canlyniadau a'r ymgeiswyr, i wirio llesiant, i rotas staff, ac unrhyw beth arall sy'n ofynnol gan dîm y Swyddog Canlyniadau
- Bod yr aelod o staff sy'n gyfrifol am sicrhau bod is-ddeddfau'n gyfredol yn sgil unrhyw newidiadau
- Gweithio ar y cyd â Rheolwr Llais y Myfyrwyr, Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth, a'r Prif Weithredwr, i gynnig cefnogaeth i swyddogion sabothol wrth ymgyrchu trwy strwythur pwyllgorau'r Brifysgol
- Rheoli a chynnal cronfa ddata gywir o Swyddogion Rhan-amser, Cynrychiolwyr UCM, Cadeiryddion yr Undeb a rolau etholedig eraill, gan adrodd yn flynyddol ar ddemograffeg y myfyrwyr sy'n cymryd rhan er mwyn creu cynllun gweithredu ar gyfer sut i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad
- Monitro effaith y Swyddogion Rhan-amser mewn cyfarfodydd, gan adrodd ar dueddiadau a deilliannau materion a godwyd gan swyddogion
- Gweithio mewn ffordd gydweithredol iawn gyda Chydlynwyr Llais Myfyrwyr eraill yng Nghymru, Llundain a Birmingham
- Cynorthwyo â’r gwaith o gyflwyno sesiynau sefydlu ar draws holl safleoedd PCyDDS yn ôl yr angen
- Cyfrannu at ymchwil, creu ac ysgrifennu'r Adroddiad Ansawdd Blynyddol
Gweithio'n agos gyda swyddogion etholedig, myfyrwyr, tîm ehangach Undeb y Myfyrwyr, a staff y Brifysgol i gynorthwyo a datblygu swyddogaethau democrataidd Undeb y Myfyrwyr
- Gweinyddu, hyrwyddo a chefnogi mentrau Llais y Myfyrwyr, gan gynnwys darparu mannau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ymgysylltu a chreu syniadau; gan weithio'n uniongyrchol gyda'r Tîm Dylunio a Chyfathrebu
- Darparu 'Hyfforddiant Sylfaenol ar gyfer Ymgyrchoedd' i fyfyrwyr, cynrychiolwyr a Swyddogion Rhan-amser gael eu hyfforddi mewn gweithgareddau democrataidd ac ymgyrchu priodol
- Cynorthwyo Swyddogion Sabothol a Swyddogion Rhan-amser i lywio swyddogaethau democrataidd Undeb y Myfyrwyr
- Hyrwyddo gwaith Swyddogion Rhan-amser gan gynnwys eu recriwtio (ethol a/neu gyfethol)
- Cefnogi Cydlynydd Llais y Myfyrwyr: Cynrychiolaeth Academaidd i gydlynu hyfforddiant a datblygiad Cynrychiolwyr Cwrs, yn ogystal â chydlynwyr Llais y Myfyrwyr ar gampysau eraill
- Cyfrannu at Gynllun Strategol yr Undeb, gan ddarparu mewnwelediad i dueddiadau democrataidd a chyfranogiad gan fyfyrwyr
Rheoli a gweinyddu ymgyrchoedd myfyrwyr
- Cynorthwyo Rheolwr Llais y Myfyrwyr i adolygu cynrychiolaeth myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn galluogi gwelliant parhaus gydag adroddiad blynyddol ar effaith Swyddogion Rhan-amser
- Cefnogi a mentora Swyddogion Rhan-amser, gan gynnwys sesiynau un-i-un rheolaidd a hyfforddiant perthnasol i sicrhau bod y swyddogaeth ddemocrataidd yn effeithiol
- Monitro a gwerthuso'r rhaglenni hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr mewn rolau cynrychioli (Swyddogion Rhan-amser) yn rheolaidd gan ymgorffori adborth myfyrwyr
- Cydweithio â Thîm Dylunio a Chyfathrebu’r UM i ddatblygu cyfathrebu effeithiol ac amserol sy'n gysylltiedig â democratiaeth myfyrwyr
- Cyfrannu at raglen flynyddol o ddigwyddiadau a chefnogaeth gan gynnwys y potensial ar gyfer Cynhadledd Gynrychiolaeth Flynyddol
- Yn unol ag unrhyw ymgyrchoedd y mae Swyddogion Sabothol a Rhan-amser yn dymuno eu hyrwyddo yn ystod eu cyfnod yn y rôl, cefnogi ymdrechion cynaladwyedd yr undeb
- Cynorthwyo Rheolwr Llais y Myfyrwyr a'r Swyddogion Sabothol i gynrychioli Undeb y Myfyrwyr mewn pwyllgorau a grwpiau priodol o fewn y Brifysgol lle bo angen, a rhoi adborth i staff perthnasol
- Cynnal eich rhwydweithiau proffesiynol eich hun; manteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar lefel leol a chenedlaethol a defnyddio ymchwil a thueddiadau ledled y sector i lywio gweithgaredd a gwelliannau
Cynnig cefnogaeth a grymuso ein harweinwyr myfyrwyr i gyflawni eu hamcanion
- Creu perthnasoedd gwaith priodol gydag arweinwyr myfyrwyr lle gall deiliad y swydd hyfforddi a grymuso cynrychiolwyr heb roi eu barn eu hunain na dylanwadu'n amhriodol ar bolisi
- Gweithio gyda chydweithwyr ar draws Undeb y Myfyrwyr ar amcanion ymgyrchoedd y timau Swyddogion Sabothol a Rhan-amser
- Cydlynu Rhwydweithiau Swyddogion Traws-Gampws
- Cadw cofnodion o weithgareddau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd a gynhaliwyd, i'w defnyddio fel cyfeirbwyntiau ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol, a hefyd i ddarparu mewnbwn ar gyfer Adroddiad Effaith blynyddol Undeb y Myfyrwyr
Dyletswyddau Cyffredinol
- Cynorthwyo a chynghori’r swyddogion myfyrwyr etholedig wrth iddynt gyflawni eu nodau ac amcanion
- Diwallu holl gyfrifoldebau perthnasol iechyd a diogelwch
- Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol Undeb y Myfyrwyr
- Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol PCyDDS
- Bod yn barod i addasu i unrhyw newidiadau, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd a pherthnasol trwy gymryd cyfrifoldeb priodol dros eich datblygiad proffesiynol eich hun
- Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr mewn rhwydweithiau proffesiynol, digwyddiadau a chynadleddau perthnasol
- Cefnogi a hyrwyddo gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr wrth gyflawni eich dyletswyddau, gan ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb, dwyieithrwydd, cynaladwyedd a democratiaeth