Croeso i'ch Hyb Uniondeb Academaidd!

Wedi'i gynllunio â myfyrwyr mewn golwg, o'r adborth a dderbyniwyd yn ogystal â thueddiadau mewn gwaith achos a welsom, mae'r pecyn cymorth a'r hyb hwn yn dwyn ynghyd ganllawiau ymarferol, awgrymiadau a chefnogaeth i gyd mewn un lle. Er mwyn i chi fynd trwyddynt a'u defnyddio pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch, boed hynny'n un o’n blogiau, gwrando ar ein podlediadau, argraffu canllaw, gweithio trwy restr wirio neu unrhyw beth arall, byddwch yn gallu dod o hyd iddo yma

Blog Uniondeb Academaidd

Mae ein Tîm Cynghori yn lansio eu hymgyrch ‘Addas i Gyflwyno’ eto eleni ond gydag elfen ffres; maen nhw'n siarad am Uniondeb Academaidd, defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn aseiniadau a sut i osgoi arferion drwg. Mae eu blog yn eich tywys trwy'r ymgyrch, beth i'w ddisgwyl, yn ogystal â ble a phryd y gallwch chi ddisgwyl gweld y tîm ar eich campws.

Blog yr Ymgyrch Uniondeb Academaidd

Pecyn Cymorth Uniondeb Academaidd

Dyma'ch canllaw cyflym i ddeall Uniondeb Academaidd, sut i osgoi camgymeriadau cyffredin a all arwain at Gamymddygiad Academaidd, a sut i gael mynediad at gymorth.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Uniondeb Academaidd
  • Defnyddio AI yn Gyfrifol
  • Enghreifftiau Ymarferol
  • Hintiau Handi
  • Y cymorth sydd ar gael
  • Geirfa o dermau allweddol

Lawrlwythwch y pecyn cymorth

Podlediad gyda Jason

Mae'r Tîm Cynghori yn ôl gyda phennod arall o 'Sgyrsiau â Chyngor'. Mae Sophie, ein Rheolwr Cynghori, yn sgwrsio â Jason Huxtable ynglŷn â defnyddio AI mewn aseiniadau, awgrymiadau gwych a beth i'w osgoi wrth astudio, gan fynd i'r afael â mythau, ateb cwestiynau a'ch cyflwyno i'r ffyrdd y gallech ddefnyddio AI yn eich prosiectau.

Cerdyn Post i’w Argraffu Gartref

Eich cerdyn post i’w argraffu gartref; myfyriwch ar eich gwaith cyn i chi ei gyflwyno. Gwiriwch yn ofalus eich bod yn ystyried Uniondeb Academaidd ym mhob agwedd ar eich aseiniadau

Lawrlwythwch y cerdyn post